Tudalen rhannu tips coginio Merched y Wawr yn denu miloedd

  • Cyhoeddwyd
Dwynwen HeddFfynhonnell y llun, Dwynwen Hedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dwynwen Hedd wedi rhannu llun o fwyd traddodiadol Cymreig yn y Swistir

Mae tudalen Facebook coginio sydd wedi ei sefydlu yn sgil y coronafeirws gan fudiad Merched y Wawr wedi denu 11,000 o ddilynwyr - nifer ohonynt o dramor.

Syniad Gwerfyl Eidda Roberts, aelod o staff y mudiad, oedd y dudalen ac mae pobl yn rhannu lluniau o'r hyn maen nhw'n ei bobi - cacenni pen-blwydd a'u prydau am y diwrnod.

Mae'n gyfle hefyd i rannu unrhyw dipiau.

"O'dd un fenyw eisiau neud cacen ond heb dun cacen na thorth," meddai Tegwen Morris, trefnydd Merched y Wawr.

"Ddywedes i y galle hi ddefnyddio unrhyw dun i wneud cacen fach fel tun sŵp neu bîns."

Pobl o bob cwr o'r byd

Mae llawer hefyd yn defnyddio iogwrt mewn cacen hefyd os nad oes ganddyn nhw wyau, meddai.

Ymhlith y rhai sydd wedi ymateb y mae pobl o'r Swistir, Ffrainc ac Awstralia.

"Mae rhai yn ddysgwyr ac ambell i seleb. Mae Huw Ffash wedi bod yn coginio ac Elliw Gwawr," meddai'r trefnydd.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae tudalen Facebook Curo'r Corona'n Coginio wedi profi'n boblogaidd

Erbyn hyn mae trafodaethau wedi cychwyn gyda Gwasg Carreg Gwalch ynglŷn â chreu llyfr fyddai'n cynnwys tipiau, ryseitiau a lluniau.

Ond nid dyma'r unig dudalen Facebook sydd wedi ei sefydlu gan y mudiad ers dechrau'r cyfyngiadau oherwydd y feirws.

Mae gan Curo'r Corona'n Crefftio 1,200 o ddilynwyr ac mae Curo'r Corona yn y Cartref yn rhoi cyfle i bobl dynnu llun o eitem yn y tŷ ac ysgrifennu rhywfaint am yr hanes.

"Mae yna straeon bach hyfryd wedi bod ar y dudalen yma," meddai trefnydd y mudiad.

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiain Bebb o Gangen Bro Ddyfi wedi sôn ar y dudalen am y crefftau yn ei thŷ mae hi'n trysori

Cynllun arall sydd wedi ei sefydlu yn ddiweddar yw Ffoniwch Ffrind.

"Rydym yn annog pawb sy'n aelodau i ffonio ffrind - rhywun efallai sy'n unig, yn gorfod hunan ynysu, yn byw ar eu pennau eu hunain, yn fregus, yn hŷn, neu yn wir yn fam sydd â llond tŷ o blant bach sydd hefyd yn werthfawrogol o sgwrs gan fam arall i rannu baich a gofid," meddai Tegwen Morris.

Ei gobaith yw bod "nhw yn gweld ni fel ffrind".

"Mae sgwrs fach yn gallu g'neud i rywun deimlo yn well. Mae'r toriad cymdeithasol sydd wedi digwydd yn amlygu unigrwydd hyd yn oed yn fwy," meddai.

Ffynhonnell y llun, Bethan Picton-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai aelodau wedi defnyddio crosio i greu enfys neu wneud un gyda blodau tra bod eraill wedi defnyddio posteri'r mudiad a'u gosod yn eu tai

Roedd Tegwen Morris yn siarad ag un fenyw yn ddiweddar oedd wedi penderfynu gwneud defnydd helaethach o'i llyfr cyfeiriadau.

"Fel arfer mae'n anfon cardiau Nadolig at nifer ond mae wedi dechrau ffonio pawb yn y llyfr i gael sgwrs. Mae wedi cyrraedd llythyren C erbyn hyn!".

Tra bod lluniau enfys wedi eu gosod yn ffenestri nifer er mwyn dangos gwerthfawrogiad o rôl gweithwyr iechyd mae rhai o aelodau Merched y Wawr wedi bod yn greadigol gydag enfys wedi ei chreu gan flodau, trwy grosio neu frodio.

Mae'r Trefnydd Cenedlaethol yn cydnabod bod y cyfnod yma yn un ansicr ac yn dweud bod y mudiad yn ceisio "arbed arian, edrych am godi arian ac yn chwilio am grantiau ar hyn o bryd".

Gobaith cryfhau'r mudiad

Cyfuniad o nawdd gan Lywodraeth Cymru, grantiau prosiectau, gwerthiant nwyddau a rhoddion, tâl aelodaeth ac arian o'u tenantiaid yn eu swyddfa yn Aberystwyth yw'r ffynonellau arian ar hyn o bryd.

Y gobaith meddai yw "ail gychwyn y canghennau lleol fis Medi" os bydd y cyngor gan y llywodraeth yn caniatáu hynny.

Ond pan fydd y pandemig yn cilio does dim bwriad rhoi'r gorau i'r tudalennau Facebook.

Y nod hefyd yn ôl Tegwen Morris yw creu rhai eraill gyda nifer wedi anfon awgrymiadau.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd y mudiad yn gryfach yn y dyfodol yn denu mwy o aelodau gan y byddwn yn falch iawn o fedru cymdeithasu a bod yn 'galon ein cymuned' unwaith eto."