Carcharu dau lofrudd am o leiaf 40 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Ben Hope and Jason RichardsFfynhonnell y llun, Police
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ben Hope (chwith) a Jason Richards yn treulio o leiaf 40 mlynedd dan glo

Mae dau ddyn lofruddiodd fyfyriwr 17 oed ar garreg drws ei gartref yng Nghaerdydd wedi cael eu dedfrydu i leiafswm o 40 mlynedd o garchar yr un.

Roedd Ben Hope, 39 oed, a Jason Richards, 38 oed, wedi derbyn £1,000 yr un er mwyn llofruddio dyn canol oed oedd mewn dyled i ddyn arall.

Clywodd y llys fod y ddau wedi llofruddio Aamir Siddiqi yn ardal y Rhath yn Ebrill 2010 wedi iddyn nhw fynd i'r tŷ anghywir.

Roedd tad Aamir, Sheikh Iqbal Ahmad, 68, a'i fam 55 oed, Parveen Ahmad, wedi ceisio atal yr ymosodiad.

Cafwyd y ddau ddiffynnydd yn euog o geisio llofruddio rhieni Aamir.

Ddydd Gwener wrth ddedfrydu'r ddau dywedodd y Barnwr Mr Ustus Royce nad oedd dewis ond "cynyddu'n sylweddol" hyd y ddedfryd o'r 30 mlynedd roedd yr erlyniad wedi gofyn amdano.

Trywanu

"Roedd Aamir yn fyfyriwr galluog gyda dyfodol addawol. Roedd yr ymosodiad arno yn giaidd ac yn greulon.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei lofruddio ar garreg ei ddrws yng Nghaerdydd

"Hyn oll am £1,000," meddai.

"Datganiadau'r dioddefwyr yw'r rhai mwyaf ingol rwyf wedi eu clywed.

"Pe baech chi'n marw yn y carchar mae'n annhebygol y bydd unrhyw un yn colli deigryn."

Tu allan i'r llys dywedodd Umbareen Siddiqi, chwaer Aamir, fod y ddedfryd yn briodol.

"Ni ddaw â'n brawd yn ôl ond bydd hyn yn helpu dod â thawelwch meddwl i ni i gyd.

"Hoffwn i ddiolch unwaith i'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, ffrindiau, y'r teulu a'r gymuned ehangach yng Nghaerdydd a mudiad cefnogi dioddefwyr."

'Urddas'

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Hurley fod y ddedfryd yn adlewyrchu llofruddiaeth frawychus dyn ifanc yn ei gartref.

"Dymuna'r heddlu ddiolch i gymunedau Caerdydd am eu cefnogaeth, i holl dystion yr erlyniad a'r rhai oedd yn rhan allweddol o'r ymchwiliad.

"Hefyd yn bwysicaf oll, hoffwn i ddiolch i deulu Aamir Siddiqi sydd wedi dangos urddas a hunanbarch drwy gydol yr holl broses."

Cafodd Hope a Richards eu harestio o fewn diwrnodau cyn rhoi'r bai ar ei gilydd am y llofruddiaeth.

Ond gwrthododd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe eu honiadau.