Plaid Cymru: Rhaid atal 'loteri côd post' prawf Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Cardiff City Stadium testing centreFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion coronafeirws yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Rhaid i brofion coronafeirws yng Nghymru beidio â dod yn destun "loteri côd post," yn ôl llythyr gan garfan o wleidyddion Plaid Cymru.

Mae Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol y blaid yn y gogledd wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yn honni bod cleifion yn eu rhanbarth "fel petaent dan anfantais".

Maen nhw'n dweud bod "problemau sylweddol" gyda phrofi yng ngogledd Cymru'n benodol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod canolfannau profi a labordai'n cael eu datblygu "ledled Cymru".

Mae llofnodwyr y llythyr yn cynnwys AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth, AC Arfon Siân Gwenllian, AC rhanbarthol Gogledd Cymru Llyr Gruffydd, AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville-Roberts ac AS Arfon Hywel Williams.

"Nid yn unig ydyn ni'n gweld nad oes digon o brofion yn digwydd yng Nghymru, ond rydyn ni'n gweld problemau sylweddol gyda phrofion a lefel y profion a gynhelir yng ngogledd Cymru yn benodol," meddant.

'Aros cyfnodau hir'

"Rydyn ni wedi cael gwybod am lawer o achosion ble mae cleifion Covid-19 posib yn gorfod aros cyfnodau hir o amser am eu canlyniadau ar ôl i'r profion gael eu cynnal.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd pob cam y gellir ei ddychmygu i sicrhau nad yw gogledd Cymru yn cael ei adael ar ôl wrth fynd i'r afael â'r pandemig hwn.

"Mae'n ymddangos bod pobl y gogledd dan anfantais benodol, ac ni ddylent ddod yn ddioddefwyr loteri côd post - yn enwedig yn ystod cyfnod o argyfwng digynsail o'r fath."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o ganolfannau profi yn agor yng Nghymru yn fuan

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gallu cynnal rhwng 8,000 a 10,000 o brofion Covid-19 y dydd yng Nghymru erbyn canol mis Mai.

Ac yn ychwanegol i ganolfan brofi yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ddydd Mawrth bod yna fwriad i agor tri chyfleuster arall "o fewn y saith i ddeg diwrnod nesaf".

Bydd y rhain yn cynnwys canolfan yn y gogledd.

Fodd bynnag, mae llythyr Plaid Cymru yn honni bod yr amserlen yn dangos "diffyg brys".

Canolfannau 'ledled Cymru'

Yn siarad ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oes gwahaniaeth daearyddol yn y ffordd o gynnal profion.

"Mae profion yn cael eu prosesu dros Gymru cyn gynted ag y mae modd a'r canlyniadau yn ôl yn nwylo'r bobl sydd eu hangen.

"Mae unrhyw awgrym bod un rhan o Gymru dan anfantais yn y broses o gwblhau hynny, yn syml yn anghywir."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r prawf antigen (neu swab), all ddweud a oes gan rywun coronafeirws ar gael ledled Cymru - mae pobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â symptomau, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol eraill sydd â symptomau yn cael eu profi.

"Mae canolfannau profi a labordai ar gyfer dadansoddi yn cael eu datblygu ledled Cymru i leihau'r amser y mae'n ei gymryd i bobl gael eu profi ac i gael eu canlyniadau.

"Ein cynllun yw profi'r bobl iawn ar yr amser iawn, yn y lle iawn i leihau lledaeniad coronafeirws."

'Osgoi pwyntio bys rhanbarthol'

Wrth ymateb i lythyr Plaid Cymru ar Radio Wales ddydd Sadwrn fe bwysleisiodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething hefyd fod daearyddiaeth "ddim yn penderfynu pa ymateb y cewch hi" a bod angen osgoi "pwyntio bys rhanbarthol o fewn Cymru".

Ychwanegodd fod mwy o brofion wedi eu cynnal yn y de ddwyrain am fod yr haint "wedi cynyddu yn gyflymach yno", gan bwysleisio fod yna gynllun i agor canolfan brofion yn y gogledd.

Fe wnaeth Mr Gething hefyd gydnabod fod rhai unigolion wedi profi oedi cyn derbyn canlyniadau profion ond fod hynny "ddim yn nodweddiadol".