Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn gadael yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
![Boris Johnson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16C3C/production/_111744239_mediaitem111744236.jpg)
Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi gadael yr ysbyty ar ôl iddo gael ei drin am coronafeirws.
Dywedodd Downing Street na fydd yn dychwelyd i'w waith am y tro.
Cafodd Mr Johnson, 55, ei gymryd i Ysbyty St Thomas yn Llundain ddydd Sul, 5 Ebrill, 10 diwrnod wedi iddo gael prawf positif am y feirws.
Treuliodd dair noson yn yr uned gofal dwys cyn dychwelyd i ward arferol ddydd Iau.
Dywedodd Downing Street y bydd y Prif Weinidog yn mynd i'w gartref cefn gwlad, Chequers, wrth iddo barhau i wella.
![Mwy am coronafeirws](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/1353F/production/_111476197_baner.png)
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
![Mwy am coronafeirws](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/1835F/production/_111476199_cps_web_banner_bottom_640x3-nc.png)
Yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab sy'n rhedeg y llywodraeth tra bo Mr Johnson yn gwella, gydag aelodau o'i dîm yn rhagweld na fydd yn ôl wrth ei waith am hyd at fis.
Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies bod y newyddion yn "wych, nid yn unig i'r Blaid Geidwadol, ond i'r Deyrnas Unedig drwyddi draw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020