Hen brosiect yn ysbrydoli ymchwil i fywyd dan coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil o'r Ail Ryfel Byd wedi sbarduno astudiaeth newydd i weld sut mae pobl yn ymdopi o ddydd i ddydd yn ystod argyfwng coronafeirws.
Bydd y prosiect yn edrych ar wefannau cymdeithasol, dyddiaduron a fideos pobl i gael darlun o fywyd pob dydd.
Yn yr astudiaeth wreiddiol roedd panel o wirfoddolwyr yn cynnal holiaduron rheolaidd, ac yn ysgrifennu dyddiaduron am fywyd dan gysgod rhyfel.
Dywedodd Dr Michael Ward o Brifysgol Abertawe, sy'n arwain yr astudiaeth, ei fod eisiau deall sut mae cymdeithas yn ymateb i'r pandemig.
Ymchwil ar gyfer y dyfodol
Dywedodd bod gwir angen astudiaeth gymdeithasol o'r ffordd y mae pobl yn ymateb i'r argyfwng, er mwyn cynllunio ar gyfer heintiau tebyg yn y dyfodol.
"Mae 'na ddiffyg ymchwil gwyddor cymdeithas i mewn i brofiadau pobl er mwyn deall y pwysau sydd ar bobl ar y funud," meddai.
Apeliodd Dr Ward am wirfoddolwyr o bob cefndir i gadw dyddiaduron rheolaidd a'u cyflwyno i'r ymchwil naill ai fel adroddiadau ysgrifenedig, dyddiaduron fideo neu negeseuon ar wefannau cymdeithasol.
Yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd panel o wirfoddolwyr eu sefydlu i ateb holiaduron ac ysgrifennu dyddiaduron. Mae'r rhain yn archif Prifysgol Sussex.
Mae Dr Ward wedi derbyn cynigion ar gyfer yr astudiaeth gan 80 o bobl hyd yma, ac mae'n gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae gwahanol genedlaethau'n ymateb i'r cyfyngiadau ac ymbellhau cymdeithasol.
"Mae pobl ifanc i weld yn colli'r gallu i fynd allan fel y mynnent, oherwydd y cyfyngiadau, tra bod pobl hŷn i weld yn colli'r cyfle i fod gyda phobl y maent yn arfer eu gweld, megis wyrion a wyresau."
Tueddiad arall y mae wedi sylwi arno yw fod pobl yn teimlo "rhyw fath o farnu ar y stryd", oedd yn arwain at deimlad o iselder neu or-bryder, er eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i fynd allan.
Dywedodd ei fod wedi synnu o weld "faint o ofn sydd allan yna".
Mae Ellie Griffiths, myfyrwraig Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe, yn cymryd rhan yn y prosiect ac yn ysgrifennu dyddiadur "bron pob dydd".
Mae hi'n credu bod adroddiadau o lygad y ffynnon adeg yr Ail Ryfel Byd yn amhrisiadwy i ni heddiw, ac y bydd angen adroddiadau tebyg o fywyd pob dydd dan coronafeirws yn y dyfodol.
"Mae'n hawdd anghofio ein bod ni'n rhan fawr iawn o hanes ar hyn o bryd, felly dwi'n credu ei bod yn bwysig iawn ei gofnodi."
Mae hi'n byw gyda'i thad, Steven Griffiths, yn nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, gyda'i mam-gu a'i thad-cu, Brian Griffiths, 73 a Christine Griffiths, 72 - yn byw drws nesaf.
Maen nhw wedi dod ar draws llythyr a anfonwyd at Ron Griffiths - hen dad-cu Ellie Griffiths - a oedd yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Wrth ddarllen y llythyr a gafodd ei hen dad-cu gan ffrind, ar ôl y rhyfel, roedd Miss Griffiths yn synnu at y tebygrwydd rhwng ei brofiad ef a'r hyn y mae pobl yn mynd trwyddo heddiw.
Yn y llythyr mae ei hen dad-cu'n dweud ei fod wedi gobeithio cwrdd a'i ffrind am beint.
"Fydde fe byth wedi meddwl y byddwn i, ei or-wyres, nid yn unig yn darllen y llythyr hwn heddiw, ond hefyd yn ei gymharu â'r hyn sy'n digwydd heddiw," meddai Miss Griffiths.
"Mae fy ffrindie a minnau'n ffili aros i gael mynd am gwrw hefyd."
Roedd y llythyr wedi ei gwneud hi'n fwy penderfynol o ddal i gyfrannu i'r prosiect, meddai.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020