'Torcalon' gohirio triniaeth ffrwythloni yn sgil Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Wynedd wedi disgrifio ei thorcalon wedi i driniaeth ffrwythloni gael ei ohirio oherwydd argyfwng coronafeirws.
Roedd Amanda Faulkiner-Farrow, 38 oed o Fethel, wedi gobeithio cael triniaeth ym mis Mehefin.
Ond cafodd apwyntiadau cleifion allanol a nifer o lawdriniaethau eu canslo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth er mwyn mynd i'r afael ag argyfwng coronafeirws.
Yn ôl HFEA - y corff sy'n rheoli clinigau ffrwythloni yn y DU - mae'n rhaid i'r holl driniaethau cyfredol gael eu cwblhau erbyn 15 Ebrill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod ar hyn o bryd yw rhoi atal pob triniaeth sydd wedi eu cynllunio o flaen llawn erbyn dydd Mercher.
Ond ychwanegodd llefarydd y byddan nhw'n adolygu'r sefyllfa'n gyson.
'Cloc yn tician'
Fe wnaeth Mrs Faulkiner-Farrow a'i gŵr, James dderbyn eu triniaeth ffrwythloni ICSI cyntaf ym mis Ionawr y llynedd.
Roedd y driniaeth yn llwyddiannus ac roedd hi'n feichiog gyda gefeilliaid, ond fe'u collwyd yn gynnar yn ystod y cyfnod beichiogi.
"Roedd o'n gwbl dorcalonnus," meddai Mrs Faulkiner-Farrow.
Dywedodd ei bod wedi ceisio am ail driniaeth ym mis Medi'r llynedd ond cafodd wybod y byddai'n rhaid iddi aros tan eleni oherwydd prinder cyllid.
Cafodd wybod mai ym mis Mehefin fyddai'r driniaeth, ac roedd hi'n gweld hwn fel ei "chyfle olaf".
"Mae yna lot o ferched fel fi - mae'r cloc yn tician," meddai.
"'Da ni heb ei adael tan y funud olaf oherwydd ein bod am ddilyn gyrfa - mae o jest y ffordd mae cariad, bywyd ac amgylchiadau yn digwydd."
'Pobl eraill ar y siwrne hefyd'
Dywedodd Mrs Faulkiner-Farrow - sydd â mab 13 oed, Tristan, o briodas flaenorol - fod y sefyllfa yn effeithio ar ei theulu cyfan.
"Mae Tristan ar y siwrne yma hefyd, felly dydy o ddim yn effeithio arna i a'r gŵr yn unig," meddai.
"Rydych chi hefyd yn sôn am y teidiau a'r neiniau sydd am gael wyrion, a ffrindiau sydd wedi bod yn ein cefnogi."
Mae HFEA yn dweud ar eu gwefan y byddan nhw'n gwneud eu gorau i godi'r gwaharddiad "mor fuan â phosib, ond ni allwn roi dyddiad pan fydd hyn yn digwydd o ystyried y sefyllfa bresennol gyda phandemig Covid-19".
Dyw clinigau ond yn gallu cynnig triniaethau ar hyn o bryd mewn achosion eithriadol.
Dywedodd Alice Matthews, cyfarwyddwr Cymru Fertility Network UK, fod y sefydliad wedi derbyn cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau ac e-byst dros yr wythnosau diwethaf.
Ychwanegodd y bydd unrhyw un sydd ar restr aros am driniaeth ffrwythlondeb yn cadw eu lle pan fo triniaethau'n ailddechrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020