'Y syndod mwya' yw bod yr ifanc hefyd angen triniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Aled HuwsFfynhonnell y llun, Aled Huws
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Huws yn gweithio yn Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr

"Y syndod mwya' yw nad yw'r cyflwr ond yn effeithio'r henoed, y llesg neu'r rheiny â chyflyrau meddygol hirdymor ond bod yna gleifion cymharol ifanc ac 'iach' hefyd angen triniaethau yn yr ysbyty."

Dyna argraffiadau Dr Aled Huws, sydd yn ymgynghorydd meddygaeth aciwt yn Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr o effaith coronafeirws.

Ei waith o ddydd i ddydd yw asesu a gofalu am gleifion sydd yn cyrraedd adran frys yr ysbyty ac yna edrych ar eu holau yn yr oriau a dyddiau cyntaf.

Mae hefyd yn asesu ac yn trin y rhai sydd ddim angen aros dros nos yn yr ysbyty.

'Euogrwydd'

Ond yn y dyddiau diwethaf dydy o ddim wedi bod ar gyfyl yr ysbyty ar ôl iddo gael symptomau o'r feirws ei hun a gorfod hunan ynysu.

Oherwydd canllawiau'r llywodraeth mae ei wraig, sydd yn fferyllydd, a'i ddwy ferch hefyd wedi gorfod gwneud yr un peth.

Mae wedi bod yn teimlo "elfen o euogrwydd" nad ydy o wedi bod yn y gwaith.

Cafodd brawf i weld os oedd ganddo coronafeirws, ond negatif oedd y canlyniad.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Maes parcio Stadiwm Dinas Caerdydd yw un lle y mae gweithwyr iechyd yn gallu mynd i gael eu profi

"Mae 'na bryderon ymysg rhai staff ynglŷn â dilysrwydd y prawf ond hwn yw'r prawf gorau sydd gennym ni ar hyn o bryd," meddai.

"Mae yna sôn am brawf gwaed 'gwrthgyrff' ar y gorwel a fydd yn galluogi i ni ddarganfod pwy yn union sydd wedi eu heintio yn barod ac o ganlyniad, gobeithio, pwy all fod wedi datblygu imiwnedd."

Diffyg cleifion eraill

Yn ei waith bob dydd mae'n dweud mai un o'r nodweddion eraill y mae wedi sylwi arno am y salwch yw pa mor gyflym y mae cyflwr y claf yn gallu dirywio - "o fod yn sefydlog un funud i angen lefelau uchel o ocsigen os nad cymorth gyda pheiriant anadlu'r munud nesaf".

Pryder arall yw'r ffaith fod cwymp wedi bod yn y nifer sydd yn dod i'r ysbyty gyda chyflyrau meddygol eraill a'r ofn bod yr oedi yma yn golygu dirywiad yn eu cyflwr pan fyddan nhw'n dod i mewn.

Yn yr wythnosau diwethaf mae'r ysbyty wedi gweddnewid, meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae rotas staff meddygol wedi newid yn sgil y feirws yn Ysbyty Tywysog Siarl

"Mae'r paratoadau a'r trefniadau wedi bod yn anhygoel," meddai.

"Mae newidiadau sylfaenol i strwythur yr ysbyty ac i lif cleifion drwy'r system fysa wedi cymryd blynyddoedd i wireddu wedi'u cyflawni mewn mater o ddyddiau i wythnosau, gyda phawb yn cydweithio mewn harmoni ac yn cyd-dynnu tuag at yr un gôl."

Cadw ysbryd

Yn ôl Dr Aled Huws, mae morâl yn uchel ymhlith y staff yn gyffredinol.

"Mae'r parch mae cymdeithas wedi dangos at staff y GIG, er enghraifft gyda'r curo dwylo bob nos Iau neu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn sicr wedi helpu i gynnal y morâl," meddai.

Er bod yr emosiynau'n gallu newid o ddiwrnod i ddiwrnod, ei brif deimlad meddai yw bod y gwaith yn "ddyletswydd a'n bod ni'n bwrw 'mlaen gyda'r hyn yr ydym wedi ein hyfforddi i wneud ac wedi ei arfer ei wneud".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gefnogaeth gan y cyhoedd i'r GIG yn hwb i staff, meddai'r meddyg

Ar hyn o bryd mae digon o gyfarpar diogelwch i staff yn yr ysbyty ym Merthyr, ond mae Dr Huws yn cydnabod y gallai hyn newid wrth i'r wythnosau basio am fod galw ar draws y byd am yr offer cywir.

Mae digon o gefnogaeth hefyd yn yr ysbyty, meddai, gyda hyfforddiant a briffiau dyddiol.

Yn ogystal mae grwpiau Whatsapp wedi eu creu i drafod unrhyw broblemau a rhannu gwybodaeth ac os oes angen llenwi bylchau staffio.

Normalrwydd adref

Er bod llawer o weithwyr wedi bod adref gyda symptomau'r feirws, mae'r ysbyty wedi llwyddo i sicrhau bod digon o'r timau meddygol i ateb y galw.

"Mae'r gallu i brofi'r aelodau staff hyn yn amserol yn hollbwysig fel bod nhw'n gallu dychwelyd i'r gwaith heb oedi pan yn rhydd o symptomau," meddai Dr Huws.

"Er bod y diffyg staff yn anochel y gobaith yw na fydd gormod o staff yn gorfod hunan ynysu yr un pryd!"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae anghofio yr hyn sydd yn digwydd yn bwysig pan mae Aled adref a gyda ei deulu

Wrth gyfaddef fod straeon am weithwyr iechyd yn marw ar ôl dal y feirws yn destun pryder, mae'n dweud bod hi'n bosib fod y risg yn cael ei "oramcangyfrif mewn gwirionedd".

Ychwanegodd bod ceisio byw bywyd normal yn bwysig iddo ef a'i wraig.

"Dwi'n meddwl bod fy nheulu'n poeni mwy nag ydw i!" meddai.

"Mae fy ngwraig Lisa yn yr un cwch gan ei bod hi'n gweithio fel fferyllydd 'rheng flaen' yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

"Ond 'dyn ni'n ceisio bod mor ddiogel â phosib drwy ddilyn canllawiau diogelwch yr offer amddiffyn a glendid, ac yn trio ein gorau i anghofio'r sefyllfa pan 'dyn ni adre i alluogi ni i fwynhau amser teuluol gyda'n plant."