Cyfyngiadau i barhau am dair wythnos arall

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd mesurau arbennig sy'n cyfyngu ar symudiadau pobl yn parhau mewn grym yng Nghymru am dair wythnos arall.

Roedd Mr Drakeford yn siarad ar ddiwedd cyfarfod o bwyllgor COBRA i drafod yr argyfwng coronafeirws.

Cadarnhaodd hefyd fod pedair cenedl y DU wedi cytuno i ymestyn y mesurau arbennig.

Mewn fideo gan Lywodraeth Cymru dywedodd: "Mae yna rai arwyddion positif yn y data, ond mae'n dal yn rhy gynnar i newid cyfeiriad."

Roedd Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ers tro y byddai'n beth amser cyn y byddai'r mesurau'n cael eu llacio neu'u codi.

Diolch i bobl Cymru

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae'r penderfyniad yn seiliedig ar ddadansoddiad gwyddonol arbenigol ar y data diweddaraf ar coronafeirws ar draws y DU.

"Rwy'n gwybod bod y tair wythnos diwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl. Roeddwn i am ddiolch i bawb yng Nghymru am y modd y mae pob un ohonom wedi delio gyda'r amgylchiadau heriol iawn yma.

"Ond rwy'n sicr na allwn ni risgio taflu'r aberth yna i ffwrdd yng Nghymru.

"Trwy godi'r cyfyngiadau yn rhy gynnar gallai hynny olygu mwy o farwolaethau, ac yn y tymor hir effaith hyd yn oed yn fwy ar fywoliaeth a bywydau pobl."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Roland Salmon

Yn y cyfamser, mae cyn-ymgynghorydd epidemioleg gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio y bydd yna effeithiau hirdymor "dramatig" ar iechyd a lles pobl yn sgil effaith economaidd y cyfyngiadau.

"Dydw i ddim yn credu fod hi'n glir fod y cyfyngiadau wedi gweithio," meddai Dr Roland Salmon, sydd bellach wedi ymddeol.

"O edrych ar gynadleddau'r wasg 10 Downing Street bob prynhawn, mae pobl yn edrych ar y graff gan ddweud wrthym fod yna arwyddion o egino, ond dyw'r egin byth yn blodeuo. Felly os fu effaith, dyw heb fod yn ddramatig."

Ychwanegodd: "Ar y llaw arall, mae cost economaidd yn debygol o fod yn ddramatig eithriadol - rydyn yn siarad yn nhermau £350bn neu 16% o'r GDP [gwerth nwyddau a gwasanaethau'r wlad].

"Pan rydych yn tynnu gymaint â hynny o gyfoeth o'r economi mae effeithiau iechyd yn anorfod yn y tymor hir."

Yn ôl Dr Salmon, does dim llawer o dystiolaeth i gefnogi damcaniaeth fod hi'n bosib rhannu pwysau'r pandemig yn gyfartal o fewn cymdeithas.

Yr unig ffordd ymlaen, meddai, yw galluogi gymaint o bobl â phosib i gael prawf Covid-19, fel bod pobl sy'n cael canlyniad negatif yn gallu dychwelyd i'w gwaith a byw eu bywydau yn ôl yr arfer.