Ehangu profion yn "dasg rhy fawr" i'r gweinidog iechyd

  • Cyhoeddwyd
Nyrs yn cynnal prawfFfynhonnell y llun, Reuters

Mae'r gwaith o ehangu profion coronafeirws yn dasg rhy fawr i'r gweinidog iechyd, Vaughan Gething, ar ei ben ei hun, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am fethu â chyrraedd eu targed o gynnal 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill.

Ar hyn o bryd mae tua 1,300 o brofion yn cael eu cynnal yn ddyddiol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gweinidog iechyd wedi comisiynu adolygiad o'r system er mwyn adnabod gwelliannau posib.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething wedi gwneud addewid i adolygu'r trefniadau er mwyn cynyddu nifer y profion

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Angela Burns, fe ddylid penodi un person i fod yn gyfrifol am ddatrys y trafferthion.

"Dwi ddim yn galw am ymddiswyddiad y gweinidog iechyd ond fe ddylai un person gael y gwaith o ddatrys y trafferthion," meddai.

Roedd 'na feirniadaeth o'r trefniadau ar ôl i ganolfan brofi yn Stadiwm Dinas Caerdydd gael ei chau dros dro ddydd Llun, a hynny wedi i Mr Gething ddweud nad oedd digon o bobl wedi cael eu cyfeirio yno.

Mae Mr Gething wedi addo adolygu'r trefniadau er mwyn cynyddu'r nifer o brofion.

'Osgoi ail don'

Mewn datblygiad arall mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailddechrau'r broses o dargedu cysylltiadau pobl sydd wedi cael y feirws.

Yn ôl Adam Price roedd "diffygion yn y broses cynnal profion yn fethiant polisi mawr o ran llywodraethau Cymru a San Steffan".

"Roedd y penderfyniad i ymbellhau o bolisi Sefydliad Iechyd y Byd i brofi, profi, a phrofi eto yn gamgymeriad," meddai.

"Os ydym i osgoi ail don o'r coronafeirws mae angen i ni ailgyflwyno'r polisi o gynnal profion a thargedu cysylltiadau agos y bobl sydd wedi cael y feirws."

"Dyna'r polisi sydd wedi cael ei fabwysiadu yn y gwledydd hynny sydd wedi llwyddo i leihau cyfraddau o farwolaethau."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gweinidog iechyd wedi comisiynu adolygiad o'r system er mwyn adnabod gwelliannau posib, a bod disgwyl y canfyddiadau erbyn diwedd yr wythnos.