Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Bydd Keiron Hassan yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Gwener
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed yng Nghaerdydd.
Bydd Keiron Alexander Hassan, 32, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Gwener.
Mae dau ddyn arall, a gafodd eu harestio dydd Iau, yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n parhau i roi cymorth i'r dioddefwr 21 oed o ardal Tremorfa, Caerdydd, ac maen nhw'n apelio am dystion mewn cysylltiad â'r achos.