Cynllun cyntaf o'i fath yn y DU i gael dros 1,000 o brentisiaid

Owain Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n garreg filltir fawr i'r ardal i gael 1,000 o bobl ifanc wedi hyfforddi drwy brentisiaethau," medd Owain Jones

  • Cyhoeddwyd

Cynllun rhannu prentisiaethau o Gymru yw'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig i feithrin dros 1,000 o brentisiaid.

Ers 2013, nod Cyfle Building Skills yw galluogi pobl ifanc yn ne a gorllewin Cymru i ddatblygu gyrfaoedd drwy ddysgu sgiliau mewn nifer o wahanol feysydd o fewn y diwydiant adeiladu.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi cyfrannu £23m mewn cyflog i'r ardal.

Ond, er yn falch o'u llwyddiant, mae cadeirydd Cyfle, Owain Jones, yn dweud bod angen cynnal yr ymdrech i ddenu rhagor o bobl at brentisiaethau yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, er gwaethaf colli cyllid Ewropeaidd mae eu cyllid craidd ar gyfer prentisiaethau wedi codi o £97m y flwyddyn yn 2020 i £144m y flwyddyn yn y gyllideb ddiwethaf.

Eu nod yw cyrraedd 100,000 o brentisiaethau cyn diwedd tymor y Senedd bresennol.

"Mae'n garreg filltir fawr i'r ardal i gael 1,000 o bobl ifanc wedi hyfforddi drwy brentisiaethau, a'r crefftwyr yna wedyn wedi mynd ymlaen i weithio yn y maes adeiladu," meddai Owain Jones, sydd hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni adeiladu.

"Mae'n bwysig cael gwaed newydd yn y diwydiant i gynyddu'r niferoedd er mwyn i ni allu adeiladu cartrefi ar gyfer pobl sydd wir eu hangen nhw.

"Fi'n annog unrhyw un sy'n ystyried i ymuno achos ma' digonedd o waith ar gael yn y diwydiant."

Dominic Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dominic Davies fod prentisiaeth wedi bod yn gam gwych iddo

Ers ymuno fel un o brentisiaid cyntaf y cwrs yn 16, mae Dominic Davies bellach yn rheolwr safle gyda chwmni adeiladu.

"Roedd y cynllun prentisiaeth yn gam gwych i fi, 'naeth gynnig y profiadau oedd eu hangen arna i er mwyn datblygu gyrfa," meddai.

"Mae'n waith caled ond 'da chi'n cael lot allan o'r gwaith, ma' sicr angen mwy o brentisiaid a gweithwyr medrus yn y diwydiant."

Fel rhan o'r dathliadau bydd cyfle i brentisiaid y gorffennol a rhai presennol ddod ynghyd yn Llwynywermod i rannu eu profiadau.

Cynan Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Fi'n credu fod lot mwy o bobl yn edrych am brentisiaethau heddiw," medd Cynan Davies

Mae'r prentisiaid diweddaraf yn gobeithio y bydd cwblhau cwrs prentisiaeth yn agor drysau iddyn nhw.

"Ma'n gyfle da i ddatblygu gyrfa," meddai Cynan Davies, 19, sydd wedi dechrau ar ei gwrs ers pythefnos.

"Fi'n credu fod lot mwy o bobl yn edrych am brentisiaethau heddiw a lot o'n ffrindiau i'n gwneud cyrsiau.

"Ma'n cynnig profiad amrywiol ac mae modd neud bach o bopeth gan hefyd dreulio diwrnod yr wythnos yn y coleg."

Cian Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Cian Thomas ddim am gael y dyledion sy'n dod wrth fynd i'r brifysgol, meddai

Datblygu gyrfa mewn peirianneg sifil yw bwriad Cian Thomas, 18.

"Dechreuais i gwrs prentis achos doedd dim diddordeb genna' i fynd i brifysgol a'r dyledion sy'n dod gyda hynny," meddai.

"Ma' bod yn brentis yn rhoi'r dechrau cywir i chi mewn bywyd i ennill cyflog a datblygu gyrfa."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu eu buddsoddiad mewn cynlluniau prentisiaethau.

"Er gwaethaf y cefndir ariannol a cholli cyllid Ewropeaidd a oedd yn arfer cyfrannu degau o filiynau o bunnoedd i'r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru, mae ein cyllid craidd ar gyfer prentisiaethau wedi codi o £97m y flwyddyn yn 2020 i £144m y flwyddyn yn y gyllideb ddiweddaraf.

"Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Medr yn dangos ein bod wedi cefnogi 77,385 o brentisiaethau newydd a gychwynnwyd hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.