Mesurau coronafeirws gwahanol i Gymru 'os oes angen'
- Cyhoeddwyd
Byddai Llywodraeth Cymru yn barod i barhau gyda chyfyngiadau coronafeirws hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu llacio mewn rhannau eraill o'r DU, yn ôl y Prif Weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai hynny'n codi problemau eraill, ond y byddai'n fodlon "gwneud pethau'n wahanol" os mai dyna oedd y "peth iawn i Gymru".
Wrth siarad yn ei gynhadledd i'r wasg, awgrymodd hefyd y byddai'r cyfyngiadau, sydd mewn grym am o leiaf dair wythnos arall, yn debygol o gael eu llacio'n raddol.
Ond byddai'n rhaid pasio nifer o brofion cyn bod digon o dystiolaeth i ganiatáu i hynny ddigwydd, meddai.
'Un neges syml'
Ddydd Gwener fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau 11 marwolaeth arall, gan olygu bod y cyfanswm bellach wedi cyrraedd 506.
Cafwyd cadarnhad o 244 achos newydd hefyd, gyda'r cyfanswm yn codi i 6,645 - ond mae'r nifer yn debygol o fod llawer yn uwch mewn gwirionedd.
Er bod gan wledydd y DU y gallu i osod eu rheolau a chyfyngiadau eu hunain i daclo'r argyfwng coronafeirws, hyd yn hyn yn gyffredinol maen nhw wedi cytuno ar yr un mesurau.
Mae rhai gwahaniaethau bychan yn bodoli fodd bynnag, gan gynnwys rheolau llymach gan Lywodraeth Cymru ar ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle.
"Os oes 'na gamau sydd yn iawn ar gyfer Cymru a'u bod nhw'n wahanol i lefydd eraill, fe fyddwn ni'n eu cymryd," meddai Mr Drakeford.
"Ond mae gwahaniaethau daearyddol yn codi problemau eraill - trafferthion o ran gorfodaeth, trafferthion gyda chael pobl i ddeall beth ydyn nhw.
"Os oes gennych chi un neges syml sy'n wir am bob rhan o'r DU, hyd yn oed ble nad yw'r amgylchiadau yn union yr un peth, mae'n helpu pobl i ddeall beth 'dych chi'n gofyn iddyn nhw wneud.
"Felly bydda i'n gyndyn o symud tuag at wahaniaethau daearyddol achos dwi'n meddwl bydd cymhlethdodau yna.
"Ond os yw'r dystiolaeth a'r cyngor gan yr arbenigwyr meddygol yn dweud bod angen i ni wneud pethau'n wahanol ac mai dyna yw'r peth iawn i Gymru, dyna beth wnawn ni."
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 17 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Dywedodd Mr Drakeford mai'r gwyddonwyr fyddai'n cynghori pryd y byddai'n ddoeth i lacio rhai o'r mesurau coronafeirws, ac na fyddai hynny'n digwydd tan ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
Ond ychwanegodd ei bod yn synhwyrol i ystyried nawr pa gamau fydd angen eu cymryd, a phryd, pan ddaw hi'n amser i lacio neu ddileu mesurau.
"Rydyn ni nawr yn gallu edrych ymlaen, yn ofalus, tuag at y dyfodol - at sut fydd Cymru a'r byd ehangach yn edrych pan fydd y pandemig yma drosto," meddai.
Ychwanegodd: "Wrth i ni edrych at y tair wythnos nesaf rydyn ni'n gweld y foment pan fydd y cyfyngiadau yn dechrau llacio ac yn y pen draw yn dod i ben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020