Croeso gofalus gan elusen i gynllun ariannu digartrefedd

  • Cyhoeddwyd
digartrefedd

Ers cyfyngiadau haint coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £10m i gynghorau sir i gynnig llety dros dro i bobl ddigartref.

Ond er yn croesawu'r cynlluniau hynny, mae elusennau yn poeni y gallai pobl fod nôl yn cysgu ar y strydoedd pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

Mae Cyngor Caerdydd yn amcangyfrif mai ond chwe pherson sy'n dal i gysgu ar strydoedd y brifddinas a hynny wedi wedi i'r cyngor ddefnyddio arian y llywodraeth i letya degau o bobl ddigartref.

Ymhlith y llefydd sy'n lletya pobl mae adeilad ar Stryd Clare yn y brifddinas - llety sy'n darparu ystafelloedd a chyfleusterau ymolchi i 41 o bobl.

Yn ogystal mae gweithwyr cymorth ar gael ar y safle 24 awr y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Andrew Templeton, mae angen mwy o wasanaethau cymunedol

Ond dywedodd Andrew Templeton, prif weithredwr elusen YMCA yn y brifddinas, bod y pandemig wedi creu problemau ychwanegol gan fod yna brinder staff a gwasanaethau ymarferol.

"Fel ag i unrhyw un, mae lockdown measures yn galed ac mae'r effaith ar iechyd pobl wrth i'r amser fynd ymlaen yn fwyfwy difrifol," meddai.

"Does dim laundrette 'da ni ac mae pethau syml fel golchi dillad yn anodd.

"Mae'n rhaid cael mwy o services cymunedol i gadw pobl gyda ni... os oes dim byd i 'neud ma' nhw'n mynd i fynd allan ar y stryd a dyna le mae'r broblem yn mynd i fod."

'Problem enfawr'

Elusen arall sy'n cynnig cymorth i bobl ifanc a menywod â phlant sy'n wynebu digartrefedd yw Llamau.

Mae nhw'n croesawu arian Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl ddigartef yn cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig ond mae nhw'n poeni'n fawr am y sefyllfa wedi i'r cyfyngiadau ddod i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Meleri Hicks bydd problemau digartrefedd yn parhau tu hwnt i'r pandemig

Dywedodd Meleri Hicks ar ran Llamau: "Mae digartrefedd yn broblem cymdeithasol - mae'n digwydd nawr, mae wedi bod yn digwydd a bydd e'n digwydd eto.

"Fodd bynnag ry'n ni yn Llamau yn poeni am y gwasanaethau y tu hwnt i coronafeirws.

"Mae'n grêt bod arian ar gael i gefnogi pobl sydd yn cysgu allan ond dylen ni ddim fod wedi bod yn disgwyl i'r argyfwng hwn ddigwydd i bobl sylweddoli fod pobl yn cysgu ar y strydoedd - felly mae hwn yn broblem enfawr i ni."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun wedi sicrhau fod mwyafrif helaeth y bobl oedd yn cysgu ar y stryd nawr wedi'u cartrefu'n ddiogel, a'u bod yn cynllunio i sicrhau tai i bawb yn y tymor hir.