Gweinidog am gael gwared â 'biwrocratiaeth' wrth brofi

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gweinidog iechyd wedi amlinellu ei gynlluniau er mwyn cael "gwared â biwrocratiaeth" o system brofi coronafeirws Cymru.

Mae Vaughan Gething eisiau gweld "cynnydd cyflym" mewn profion ar gyfer gweithwyr allweddol.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi llwyddo i gyrraedd ei tharged o brofi 5,000 o bobl y dydd erbyn canol Ebrill ac maent wedi cael eu beirniadu yn chwyrn am hynny.

Dangosodd data Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener mai 783 o brofion gafodd eu gwneud ar y diwrnod hynny.

Cyhoeddi newidiadau

Mae'r ffigyrau dyddiol yn gyson wedi bod o dan 1,000 ac mae Mr Gething wedi cyfaddef nad ydyn nhw wedi gallu "cwrdd â'r nod".

Yn dilyn "adolygiad cyflym" o'r system mae wedi cyhoeddi:

  • Bydd y llywodraeth yn gweithio tuag at gael system lle bydd modd archebu prawf ar y we

  • Fydd dim cyfyngiad fesul awdurdod lleol ar y nifer o weithwyr gofal cymdeithasol fydd yn cael eu profi

  • Bydd y broses o brofi gweithwyr hanfodol yn cael ei adolygu yn bellach

  • Bydd yna ofyn i'r fyddin edrych ar y broses er mwyn ei "chyflymu a'i gwneud yn fwy effeithiol"

Dywed yr adolygiad bod yna "sawl math o oedi" wedi bod i gael gafael ar yr offer i brofi.

Dywedodd Mr Gething: "Rydyn ni yn cynyddu ein gallu er mwyn profi yng Nghymru trwy ein hunedau profi yn y gymuned, cyflwyno canolfannau rhanbarthol lle bydd modd i bobl yrru yno ac o fewn wythnosau gwasanaeth profi adref ar y we."

"Am nad oedd y niferoedd oedd yn cael eu profi yn cyd fynd gyda'r capasati roedden ni wedi ei gynllunio yng Nghymru fe wnes i orchymyn adolygiad cyflym o'r system bresennol."

Beth oedd y problemau?

Mae'r anawsterau ynglŷn â chynyddu nifer y profion wedi bod yn y penawdau wythnos yma.

Roedd yna feirniadaeth bod canolfan brofi yng Nghaerdydd i weithwyr allweddol ar gau ddydd Gŵyl y Banc.

Ddydd Gwener fe wnaeth y gweinidog iechyd gyfaddef nad oedden nhw wedi gallu "cwrdd â'r nod" o safbwynt nifer y profion.

Y targed oedd 5,000 o brofion bob dydd erbyn canol Ebrill ond mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod nifer y profion mewn gwirionedd wedi bod yn llawer llai na hynny.

Yn y dyddiau diweddaf mae'r ffigwr wedi bod yn llai na 1,300. Ddydd Iau er enghraifft dim ond 705 o brofion gafodd eu gwneud.

Mae Mr Gething wedi dweud y bydd mwy o brofion yn y dyddiau nesaf.

"Mae'r adolygiad wedi argymell sawl peth er mwyn cyflymu'r broses o gyfeirio gweithwyr allweddol i gael eu profi.

"Dwi wedi derbyn y rhain i gyd i gael eu gweithredu yn syth" meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Llywodraeth Cymru heb gyrraedd ei tharged o gynnal 5,000 o brofion yn ddyddiol

Dywedodd ei fod yn cyhoeddi polisi profi gweithwyr hanfodol sydd yn amlinellu pa weithwyr fydd yn cael eu profi a sut.

"Rydw i eisiau gweld cynnydd cyflym yn y nifer o weithwyr hanfodol fydd yn cael eu profi ar draws Cymru fel eu bod yn gallu dychwelyd i'w gwaith yn fwy cyflym a chael yr hyder i wneud eu gwaith yn saff.

"Mae eu cyfraniad i atal lledaeniad coronafeirws ac i'n cadw ni yn saff yn amhrisiadwy."