Cyhuddo bachgen, 17, o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bachgen 17 oed o Rydaman wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn y dref ddydd Sul.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad llai difrifol o geisio anafu gyda bwriad.

Fe wnaeth y bachgen ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe drwy Skype ddydd Llun, ble cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron y ddinas ddydd Mawrth.

Cafodd dyn sydd hefyd yn dod o ardal Rhydaman ei yrru i ysbyty Treforys Abertawe ac mae mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys hefyd nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.