Alexa yn dechrau dysgu Cymraeg am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r seinydd clyfar Alexa yn gallu gweithio yn rhannol yn Gymraeg am y tro cyntaf.
Mae S4C wedi cyhoeddi bod gan y seinydd clyfar sgil newydd o'r enw Welsh Language Podcasts sy'n caniatáu i ddefnyddwyr Alexa chwilio am gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Cam cyntaf ydi hwn," medd Rhodri ap Dyfrig o S4C, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C.
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd: "Dydi Alexa ddim yn gyffredinol yn gallu siarad Cymraeg, felly be 'da ni wedi creu ydi sgil ar gyfer Alexa."
Cynnydd mewn defnydd
Yn ôl ymchwil S4C, mae o leiaf un mewn pump o gartrefi Prydain yn defnyddio seinydd clyfar erbyn hyn.
"Mae hwn yn dod yn un o'r petha sydd yn ein cartrefi ni ac mae wedi bod yn broblem eitha mawr bod 'na ddim unrhyw fath o Gymraeg gan Alexa," meddai.
"Oddan ni'n trio ffeindio ffordd o ddechra newid hyn ac felly da ni wedi bod yn gweithio ers rhyw flwyddyn bellach yn trio datblygu sgil Alexa sydd yn gallu agor y drws ar gael rhywfaint o Gymraeg ar y ddyfais yma."
Podlediadau Cymraeg
Mae rhyw 60 o bodlediadau Cymraeg ar gael ar y we, rhai gan S4C a'r BBC ac eraill gan gyfranwyr annibynnol. Un o'r podlediadau mae Alexa'n gallu dod o hyd iddyn nhw yn Gymraeg yw un Ffit Cymru, ac yn ôl y cynhyrchydd, Phil Stead, o Cwmni Da, mae rhoi sgiliau Cymraeg i Alexa yn holl bwysig:
"Dwi'n meddwl bod prosiectau fel yma yn gwbl hanfodol i ddyfodol yr iaith," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mewn degawd, ugain mlynedd bydd mwy a mwy o ddyfeisiadau o gwmpas y tŷ yn cael eu gweinyddu efo llais yn lle remote controls a keyboards. Bydd mwy a mwy o bethau yn ddigidol fel ffrij, dishwashers, freezers, washing machines - bydd rheina i gyd yn cael eu cyfarwyddo efo llais.
"Os dan ni ddim yn gallu neud hwnna drwy gyfrwng y Gymraeg, newn ni weld llai o Gymraeg o gwmpas y tŷ."
"Swn i'n dweud mai hwn 'di'r peth mwyaf pwysig i ddyfodol yr iaith yn y degawd nesaf."
Technoleg newydd
Fe ddatblygodd S4C y dechnoleg newydd ar y cyd â chwmni o Abertawe, Mobilise Cloud Services, gyda Y Pod yn darparu'r cynnwys.
"Dyma'r tro cyntaf erioed i dechnoleg o'r fath gael ei ddatblygu ar system Alexa," medd Rhodri ap Dyfrig.
"Mae'r sgil arloesol yma ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd gyda dyfais Alexa, fel Echo neu Dot. Mae'n gweithio mewn ffordd tebyg i Ap, felly yr oll sydd angen gwneud i'w ddefnyddio yw gosod y sgil ar eich dyfais."
Dywed Aled Jones o Y Pod: "Gyda mwy ohonom yn chwilio am bethau i'n difyrru wrth aros gartref, mae Ffit Cymru a Clic o'r Archif yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, yn ogystal â phodlediadau sy'n helpu dysgwyr fel Gair Cymraeg y Dydd a Pigion (Highlights for Welsh learners).
"Mae podlediadau cerddoriaeth, chwaraeon, materion cyfoes, comedi a mwy wedi eu casglu ar Y Pod. Gallwch chwilio fesul categori, neu ofyn i Alexa ddewis rhywbeth drosoch chi os ydych chi'n teimlo'n lwcus."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae S4C ac Y Pod yn annog defnyddwyr i brofi'r gwasanaeth er mwyn profi bod angen amdano.
Tra'n croesawu'r datblygiad newydd yn fawr, mae arbenigwyr ar ddatblygu ieithyddol yn dweud bod galw mawr am ehangu'r gwasanaeth.
"Mi fydd dyfeisiadau fel Alexa yn siarad Cymraeg yn eitha buan," medd Cynog Prys, darlithydd cymdeithaseg a chynllunio ieithyddol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n cyfeirio at gynlluniau Canolfan Bedwyr i greu seinydd clyfar o'r enw Macsen a chynllun Common Voice, sy'n datblygu meddalwedd adnabod llais ar hyn o bryd.
"Y broblem ydi, os nad ydyn nhw yn siarad Cymraeg, mae o'n atgyfnerthu y syniad 'ma bod y Gymraeg ddim yn iaith ar gyfer y byd technolegol, bod o ddim yn ddigon modern" meddai.
"Mae'n allweddol bo ni'n cael hwn am lot o resymau gwahanol, gan gynnwys sut mae plant a pawb mewn gwirionedd yn gweld lle y Gymraeg o fewn y byd modern."
Pa acen sydd gan Alexa?
I'r rhai sy'n ceisio dychmygu sut lais sydd gan Alexa tra'n siarad Cymraeg, yr ateb yw acen deheuol.
"Dydi o ddim yn ddeheuol cryf iawn," medd Rhodri ap Dyfrig.
"Mae'n rhaid siarad yn weddol glir gyda'r dyfeisiadau 'ma beth bynnag, er mwyn iddyn nhw ddeall y gwahaniaeth rhwng synau gwahanol. Mae i weld i neud yn weddol dda os 'da chi'n siarad yn weddol glir. Rhoi tro arni 'di'r peth."
"Dwi'n gallu gweld lot o bosibiliadau o ran straeon Cymraeg ac o ran pob math o bethau gwahanol drwy'r ddyfais Alexa, felly swn i'n annog pawb i'w defnyddio hi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018