Yr 'hunllef' o golli dau aelod o deulu o fewn wythnosau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Linda Jones bod y profiad o golli ei theulu wedi bod yn "uffern ar y ddaear"

Mae merch dyn o Wynedd, fu farw gyda coronafeirws, yn erfyn ar bobl i beidio â theithio'n ddiangen er mwyn atal lledaenu'r haint.

Bu farw John Griffiths, o Abersoch, ar 9 Ebrill, ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Does gan ei deulu ddim syniad sut y cafodd y feirws gan nad oedd yn un am deithio llawer a ddim yn mynd ymhellach na'i siop leol.

"Dyn ei filltir sgwâr oedd o," meddai Linda Jones, merch John Griffiths.

"Dyn dim ffys ac yn ddyn mor boblogaidd, ond 'da ni mor flin.

"'Da ni fel teulu yn gofyn 'pam John?', 'da ni'm 'di clywed am neb arall ym Mhen Llŷn yn sâl efo'r feirws.

"Fedrwn ni ddim meddwl am sut arall y cafodd o'r feirws, ac mae o yn 'neud chi mor flin."

'Codi bawd wrth fynd i'r ambiwlans'

Yn ôl Ms Jones, mi ddechreuodd ei thad fynd yn sâl ar fore 2 Ebrill, ond nid gyda'r symptomau sy'n gysylltiedig fel arfer gyda Covid-19.

"Mi wnaeth o ddisgyn fore Iau, daeth y paramedics allan ac mi gafodd antibiotics. Ond mi ddisgynnodd eto fore Sadwrn, ac mi aeth i Fangor, gan ddisgwyl y byddai adra yn fuan," meddai.

"Y co' diwethaf sydd gan mam o'n nhad ydy fo'n codi bawd arni wrth fynd mewn i'r ambiwlans."

Fe glywodd Ms Jones fod ei thad yn wedi profi'n bositif am coronafeirws yn ystod un o'i galwadau ffôn i Ysbyty Gwynedd.

"Ambell dro oedd o'n 'doing well' ond tro arall ddim. Fedrai'm canmol Ysbyty Gwynedd ddigon.

"Mi glywodd mam be oedd yn bod arno fo ar ddiwrnod eu pen-blwydd priodas nhw yn 54 mlynedd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

John Griffiths gyda'i wraig

Yn ôl Ms Jones, mae ei hagwedd at ymwelwyr wedi newid am byth ar ôl y penwythnos cyntaf o'r cyfyngiadau a gafodd eu cyflwyno i geisio rheoli lledaeniad y feirws.

"Fydda' i byth yn edrych ar ymwelwyr 'run fath," meddai. "Mi ddaethon nhw yma yn un fflyd un penwythnos. Mae'r pentre' 'di cythruddo hefo nhw."

Mae Ms Jones yn flin hefyd na chafodd ei mam ei phrofi am y feirws, fel y gallan nhw fod wedi treulio mwy o amser yn agos ati yn ystod eu galar.

"Chafodd mam ddim prawf. 'Naethon ni ofyn i'r meddyg teulu ond doedd o ddim yn bosib," meddai.

Ffynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Linda Jones gyda llun o'i mab Rhun

Daeth y trychineb diweddaraf lai na thri mis sydd ers i Ms Jones, sy'n brifathrawes Ysgol Gynradd Abersoch, golli ei mab mewn damwain car.

Roedd Gruffydd Rhun Jones yn 27 oed ac yn gadael gweddw a dwy ferch fach.

"Mae hyn yn hunlle' ac mae pobl yn gofyn sut dwi'n medru codi allan o'r gwely yn y bore. Mae o yn hunllef ac roedd y sioc o golli Rhun wedi d'eud ar fy nhad," meddai Ms Jones.

"Falla fod ei system imiwnedd wedi gwanio ar ôl y sioc. Roedd Rhun yn mynd i gartre' fy mam a 'nhad o leia' bedair gwaith bob wythnos - roedden nhw'n agos iawn."

'Dydy hi ddim yn deall'

Yn ddiweddar roedd pen-blwydd merch hynaf Rhun yn bedair oed.

"Mi gafodd hi barti heb dad yno a'r teulu, dydy hi ddim yn deall," meddai Ms Jones.

"Pan gollon ni Rhun, roedd cannoedd wedi cysylltu a dod i'r tŷ.

"Ond pan gollodd Mam fy nhad, doedd pobl ddim yn gallu dod yna i gael panad a hygs oherwydd bod nhw'n gorfod cadw draw."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

John Griffiths gyda'i wraig a'i ŵyr

Cafodd Mr Griffiths ei gladdu ddydd Gwener 18 Ebrill ac roedd yn achlysur anodd iawn i'r teulu.

Dywedodd Ms Jones: "10 o bobl oedd yn cael bod yn yr angladd ond mi ddaeth pobl y pentre' i gyd allan, pawb 'di gwisgo teis a chrysau a rhai efo blazers y clwb golff, a phobl yn sefyll yn nrysau eu tai yn gostwng eu penna' wrth i'r hers fynd heibio.

"Roedd o'n byw yn Tŷ Capel ac yn glanhau'r capel, a mi ddylsa fo fod wedi cael gwasanaeth yno, ond mi gawn ni pan fydd hyn i gyd drosodd."

Er y gefnogaeth gan ei theulu a chymuned Abersoch, mae Ms Jones yn flin fod ei mam wedi gorfod diodde' ar ei phen ei hun, a heb gael dweud ffarwel i'w chymar oes.

"Y tro diwetha' i fi weld dad oedd drwy'r ffenest," meddai.

"Y tro diwetha' i mam weld dad oedd yn mynd mewn i'r ambiwlans. Chafodd hi ddim o'i weld o yn yr ysbyty, a chafodd hi 'mo'i weld o ar ôl iddo farw.

"'Dan ni 'di claddu dau o fewn 'chydig dros naw wythnos i'w gilydd. 'Tasa ni'n stopio i feddwl, dwi'm yn meddwl 'sa ni yn codi o'r llofft d'eud gwir."