Cymuned Hendy-gwyn yn closio wrth gadw ar wahân

  • Cyhoeddwyd
Strydoedd tawel Hendy-gwyn ar Daf
Disgrifiad o’r llun,

Strydoedd tawel Hendy-gwyn ar Daf

Yn Hendy-gwyn ar Daf yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, mae'r gymuned wedi profi fod yna ddaioni a charedigrwydd yng nghanol y cyfnod pryderus presennol.

Mae hi'n ddigon tawel ar stryd fawr Sant Ioan, gydag ambell gwsmer yn galw i'r dyrnaid o siopau bwyd sydd ar agor, ac un teulu'n golchi dillad yng ngolchdy'r dref.

Gyda chymaint o weithgareddau Cymraeg yn arfer cael eu cynnal yn yr ardal, mae'n gyfnod digon rhwystredig i'r trigolion lleol.

Ond mae ffactorau cadarnhaol hefyd, yn ôl Elonwy Phillips.

Bwydo pobl fregus

"Dwi 'di dod i 'nabod pobl o'n i ddim yn 'nabod o'r blaen," meddai.

"Os y'n nhw'n gweld chi'n cerdded ar yr hewl, ma' nhw'n dod i'r drws, ac os y'n nhw'n byw ar eu pen eu hunain, ma' nhw'n hoffi cael sgwrs.

"A dwi 'di siarad 'da phobl am y tro cynta' ers blynydde."

Mae Elonwy a'i gŵr Gareth newydd ddathlu eu pen-blwydd priodas.

"Gan mai ar ddydd Sul oedd e, mwy na thebyg fydden ni ddim 'di 'neud dim byd arbennig i ddathlu, ond mynd i'r capel a chael cinio dydd Sul traddodiadol," meddai.

"Ond diwrnod cyn 'ny, bydden ni siŵr o fod wedi mynd i'r arfordir a chwilio rhyw westy a chael pryd o fwyd a glased bach o win. Ond fe ddaw cyfle i hynny eto."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meryl James ac Eryl Rosser wedi bod yn paratoi a dosbarthu prydau bwyd i bobl yr ardal

Ar gyrion y dref, mae Eryl Rosser a Meryl James yn brysur gyda'u menter newydd.

Dechreuodd y cyfan yng Nghapel Y Tabernacl yn y dref pan gynigiwyd bwydo pobl fregus yr ardal.

Deintydd yw Eryl, a chyn ymddeol roedd Meryl yn rheolwraig banc. Mae'r ddwy bellach yn darparu cawl a chinio dydd Sul i dros 20 o gartrefi.

"Oherwydd Covid, mae deintyddiaeth wedi newid yn llwyr," meddai Eryl Rosser.

"Ma' hubs 'da ni ar gyfer pobl mewn angen drwg, a dwi'n gallu rhoi gwybodaeth i bobl os ydyn nhw'n ffonio. Ond dwi gatre' nawr, a dwi'n dwlu ar goginio!"

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth hi goginio 25 pryd.

"Twrci o'dd hwnnw, felly o'dd e fel cinio 'Dolig, ac roedd e'n teimlo fel cinio Nadolig, gan bo' fi wedi gorfod paratoi y noson gynt," esboniodd.

"Mae'n rhaid i fi ddechre 'chydig bach yn gynharach gan bo' Meryl yn dod yma erbyn 11:30. A dwi 'di gorfod cael sosbenni newydd achos hyn - ma' sosban anferth 'da fi ar gyfer y tato!"

Disgrifiad o’r llun,

Cinio dydd Sul blasus arall ar y ford

Meryl James sy'n cludo'r bwyd i gartrefi'r ardal, y cawl bob Mercher, a'r cinio bob dydd Sul.

"Ma' pawb yn gwerthfawrogi cael treat ddwywaith yr wythnos. A ma' nhw'n gallu tynnu'r bwyd mas o'r containers os oes angen ail dwymo."

Mae'r fenter wedi ymestyn yn llawer ehangach na Chapel Y Tabernacl erbyn hyn.

"Mae'n beth da ein bod ni'n gallu ymestyn allan o furiau'r capel, bo' ni'n edrych ar ôl nid dim ond aelodau'r Annibynwyr, ond enwadau eraill a phawb sy' angen help yn Hendy-gwyn.

'Byw mewn cocoon'

Mae Margarette Hughes, un o'r trigolion, yn colli bywyd cymdeithasol bywiog y dref.

"Ar y dechre roedd e fel bod mewn cocoon a phawb yn gofalu amdano ni mor ofalus, a'r plant yn gweud 'peidiwch g'neud hyn a pheidiwch g'neud y llall'," meddai.

"Ond erbyn hyn, ma' dyn yn cael digon ar fyw mewn cocoon. Bydden i wrth fy modd yn mynd mas i gymdeithasu, ond yn anffodus, s'dim hawl 'da ni, ond trwy lwc, ma' dolen gyswllt 'da fi, sef y ffôn!

"Dwi ddim yn neud yr aps 'ma na'r zooms, fel 'ma bobl eraill yn 'neud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Margarette Hughes yn ceisio cymryd pob dydd fel mae'n dod

Mae colli annibyniaeth yn anodd hefyd, meddai.

"O'r blaen o'n i'n twyllo'n hunan bo' fi ddim yn hen, achos bo' fi'n galifantan i bobman, a ddim yn meddwl am y peth.

"Ond nawr bo' amser i feddwl 'da fi, ni'n sylweddoli, wel, ry'n ni yn hen. Ond dwi'n treial peidio meddwl gormod, achos ma' pump o'n teulu ni yn blant ac wyrion sy'n gweithio mewn ysbytai, ac os ddechreuwn ni fecso'n ofnadw', bydden ni'n mynd i'r falen.

"Felly ni'n trio cadw'r peth yn ysgafn, a chymryd bob dydd fel mae'n dod."

Tiwtora dros y we

Mae Margarette yn diwtor Cymraeg, ac mae'n ganddi ddau ddosbarth.

"Unwaith yr wythnos, ar ddyddie Mercher, dwi'n hala 40 munud ar y ffôn 'da nisgyblion Cymraeg," meddai.

"Felly yn lle mynd ar Zoom, lle ma' trwyn dyn yn edrych rhyw deirgwaith y maint ddylie fe fod, dwi'n siarad ar y ffôn.

"Mae eu Cymraeg nhw yn gwella, a ma' nhw bron â bod cystal â Carol Vorderman erbyn hyn!"