Pobl Abertawe'n 'newid cyfeiriad ac addasu'
- Cyhoeddwyd
Ers i gyfyngiadau haint coronafeirws ddod i rym, mae cymunedau ar draws Cymru wedi bod yn dod at ei gilydd i helpu pobl fregus ac i hybu busnesau lleol.
Ry'n ni eisoes wedi clywed am ymdrechion yn ardaloedd Caernarfon, Dinbych, Machynlleth a Bangor.
Mae strydoedd Abertawe, fel pob man arall, yn dawelach wrth i bobl ddilyn y cyfarwyddiadau ac aros adref.
Ar Ffordd y Brenin, mae'r gwaith ail-ddatblygu gostiodd £12m, wedi'i gwblhau oni bai am y cam olaf un - newid llif y traffig.
Oherwydd coronafeirws, mi benderfynodd Cyngor Abertawe oedi cyn cyflwyno'r newidiadau.
Er nad ydy llif y traffig wedi newid mae pobl y ddinas wedi bod yn newid cyfeiriad ac yn addasu.
'Cyfnod rhyfeddol'
Yng Ngorseinon parhau mae'r gwaith banc bwyd Eglwys Santes Catherine ond mae'r drefn arferol yn wahanol iawn.
"Ry'n ni fel eglwys wedi gorfod gohirio priodasau. Ry'n ni wedi gorfod addasu sut ni'n gneud angladde," meddai'r ficer, Adrian Morgan.
"Mai'n gyfnod rhyfeddol hefyd gan ein bod ni'n gweld pobl yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol yn codi'r galon a dweud y gwir."
Mae'r eglwys yn gweithio gyda chynghorwr Gorseinon i drefnu siopa am fwyd a nôl meddyginiaeth i'r rhai mwya' bregus yn y dref.
"Yn ogystal â hynny mae gwaith mwy traddodiadol yr eglwys yn parhau," meddai'r Parchedig Morgan.
"Ry'n ni'n cael oedfaon ar y we drwy Soundcloud; mae'n gwaith plant ni'n parhau trwy YouTube ac fe gawson ni gwrdd gweddi dros Zoom gyda rhai yn ymuno a ni yn eu hwythdegau!"
Er ei bod hi'n teimlo fod bywyd arferol wedi dod i stop, mae'r byd yn dal i droi, ac mae bywyd yn mynd yn ei blaen.
Cymorth i ddarpar-rieni
Mae hi'n gyfnod pryderus i'r rheiny sy'n disgwyl babi ond mae gwersi cyn-enedigaeth wedi'u canslo oherwydd y pandemig.
Mae Dr Alys Einion-Waller, Athro Cysylltiol Bydwreigiaeth ac Iechyd Menywod ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig cyngor ar-lein i ddarpar-rieni.
Cofrestrodd 12 cwpl ar gyfer y sesiwn cyntaf ond erbyn hyn mae 33 pâr o ddarpar rieni wedi cofrestru ar gyfer y cwrs sy'n egluro technegau i ymlacio a hunan-hypnosis.
"Y nod ydy helpu pobl i deimlo bod ganddyn nhw reolaeth o'r sefyllfa - ac wedyn bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniadau yn ystod yr enedigaeth," meddai.
"Mae geni hypnotig yn dysgu sut i ymlacio, i leihau ofn ac i reoli gor-bryder, rhywbeth mae llawer ohonon ni'n ei deimlo ar hyn o bryd."
Mae Cymru Fyw eisoes wedi siarad gyda Geraint a Mair Thomas o Orseinon fu'n rhaid canslo dathliadau eu pen-blwydd priodas ddiemwnt.
Fues i draw yn gweld sut oedden nhw'n cadw.
"Roedd e'n siom," meddai Geraint, sy'n 87 oed. "Ond ma'n rhaid gwrando ac aros mewn er mwyn stopo'r feirws 'ma."
"Mae 'na bobl yn ei chael hi'n galetach na ni, o lawer," meddai Mair.
Gofynnais a oedden nhw'n bwriadu ail-drefnu'r dathliadau unwaith mae'r cyfyngiadau yn cael eu codi.
"Bydd rhaid ca'l parti mowr pan ma' hyn gyd drosto 'chan!" meddai Geraint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020