Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio heddwas
- Cyhoeddwyd
Mae dyn lleol yn ei 30au wedi ei arestio yng Nghasnewydd ar amheuaeth o geisio llofruddio un o swyddogion Heddlu Gwent ac o geisio cynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Cafodd swyddogion o'r llu eu galw i ddigwyddiad yn Heol St Vincent yn y ddinas am 05:15 fore Iau wedi adroddiadau o gythrwfl.
Mae un o'r swyddogion, sarjant 47 oed o ardal Casnewydd, mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Gwent ar ôl cael anafiadau â chyllell i'w stumog.
Mae swyddog heddlu 33 oed o ardal Casnewydd bellach wedi gadael yr ysbyty ar ôl cael triniaeth at effeithiau anadlu mwg.
Mae'r dyn sydd wedi ei arestio yn dal yn y ddalfa, ac mae teulu'r plismon sy'n dal yn yr ysbyty yn cael cymorth arbenigol.
'Digwyddiad pryderus'
Yr heddlu wnaeth hysbysu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod yna dân yn yr eiddo, yn fuan ar ôl cyrraedd.
Mae'r gwasanaeth yn ymchwilio i achos y tân.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Johnson, sy'n arwain yr ymchwiliad i'r achos: "Mae hwn yn amlwg yn ddigwyddiad pryderus i ni ac i'n swyddogion.
"Gallaf gadarnhau fod hwn yn achos unigol a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth, gan ofyn i'r cyhoedd ffonio 101.