Covid-19: Cryfhau rhai o'r cyfyngiadau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford: Rheolau newydd i ddod i rym dydd Sadwrn

Bydd rhai o'r cyfyngiadau ar gyfer atal ymlediad Covid-19 yn cael eu cryfhau i "fynd i'r afael â heriau sy'n cael eu hwynebu mewn rhannau o'r wlad".

Bydd y rheoliadau newydd yn ei gwneud hi'n amlwg na all pobl aros i ffwrdd o'r man lle maen nhw'n byw.

Bwriad y newidiadau yw atal y defnydd o ail gartrefi a darbwyllo pobl rhag gwneud ymarfer corff y tu allan i'w hardal leol.

Brynhawn Gwener fe gadarnhaodd Heddlu'r Gogledd eu bod nhw'n barod i erlyn pobl a fyddai'n teithio i'w hardal petai angen, ac mae Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai'r cyfyngiadau barhau nes "o leia" gŵyl banc mis Mai.

System 'goleuadau traffig'

Wrth siarad ar BBC Radio Wales fore dydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford y gallai rhai cyfyngiadau gael eu llacio ar ddiwedd y cyfnod presennol o dair wythnos o gyfyngu.

Ychwanegodd y gallai Gymru ddod allan o'r drefn gyfyngiadau mewn tri cham "fel goleuadau traffig", o goch i oren i wyrdd.

Byddai'r cyfnod coch yn gweld llacio "mwyaf gofalus dan reolaeth" o'r cyfyngiadau, ac yna fe fyddai mwy o lacio fyth ar gyfyngiadau yn ystod y cyfnod oren.

Petai'r feirws ddim yn ail-ymddangos fe fyddai modd symud i'r cyfnod gwyrdd, meddai.

Byddai'r cyfnod hwn "yn edrych yn llawer iawn tebycach i'r bywydau yr oedd gennym cyn i'r feirws daro."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai pobl wedi bod yn teithio i'w hail gartrefi er mwyn hunan ynysu

Pan ofynnwyd iddo pryd y byddai Cymru'n gallu symud i'r cam coch cyntaf, fe ddywedodd: "Rwy'n gobeithio y byddem mewn sefyllfa i wneud hynny ar ddiwedd y cyfnod tair wythnos presennol o gyfyngiadau."

Ond fe rybuddiodd y byddai hyn yn digwydd dim ond os fyddai Cymru'n ateb gofynion fframwaith y llywodraeth ar lacio'r cyfyngiadau, fydd yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.

"Fe fydd yn rhaid i ni weld niferoedd pobl yn mynd i mewn i ysbytai yn gostwng yn gyson am 14 diwrnod.

"Maen nhw wedi bod yn gostwng am yr wythnos ddiwethaf felly nid yw'n amhosib i ni gyrraedd y pwynt yma ac yn yr achos yma fe allwn symud i'r cyfnod coch."

Rheolau newydd

Mae'r rheolau newydd, a fydd yn dod i rym ddydd Sadwrn, hefyd yn cynnwys ymestyn y canllawiau pellter cymdeithasol i ffreuturau ysbytai, ysgolion a charchardai.

Ond bydd busnesau sy'n cynnig gwasanaeth "clicio a chasglu" yn cael ailagor cyn belled â'u bod yn cadw at y rheolau pellter cymdeithasol.

Mae disgwyl i bobl wneud eu ymarfer corff "mor agos a phosib" at eu cartrefi, ac mae seiclwyr yn cael rhybudd na ddylen nhw fynd dim pellach na beth y byddai'n bosib ei gyrraedd wrth gerdded.

Bydd teuluoedd â phlant sydd ag anawsterau dysgu penodol gan gynnwys awtistiaeth yn cael gadael y tŷ fwy nag unwaith y dydd hefyd.

Wrth gyhoeddi'r newidiadau dywedodd y Prif Weinidog: "Mae'r newidiadau rydyn ni'n eu cyflwyno'n ategu'r rheolau sydd mewn grym eisoes ond maen nhw'n ymateb i rai heriau sy'n cael eu hwynebu mewn rhannau o'r wlad a gan deuluoedd ledled Cymru.

"Nid yw ein neges ni wedi newid - fe all unrhyw un ddal y coronafeirws, ac fe all unrhyw un ei ledaenu. Felly plîs, arhoswch gartref, gwarchod y GIG, ac achub bywydau," ychwanegodd Mr Drakeford.

Yr heddlu i erlyn

Yn l Heddlu'r Gogledd maen nhw'n barod i erlyn bobl sy'n teithio i'r ardal heb fod angen.

"Y cyfarwyddyd gan Lywodraethau Cymru a Phrydain yw y dylai pobl wneud eu hymarfer corff yn lleol, gan ddefnyddio mannau agored yn agos at eu cartref lle bo hynny'n bosib," meddai'r Prif Gwnstabl Carl Foulkes.

"I fod yn hollol glir, nid yw hi'n dderbyniol i chi deithio i'ch ail gartref, fe fyddwn ni'n eich rhwystro chi ac os oes angen yn eich erlyn chi."

Dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, y dylai'r cyfyngiadau ar symud barhau nes "o leia" gŵyl banc, 8 Mai.

"Ni wedi bod yn eitha clir fel heddlu yng Nghymru bod angen i'r llacio ddigwydd ar ôl Gŵyl y Banc. Mae'n rhaid i'r llacio ddigwydd yn araf ac yn raddol.

"Hefyd, mae'n bwysig bod ni'n mynd ymhellach na'r tair wythnos presennol, achos beth ry'n ni'n poeni yw y bydd pobl yn gweld hynny fel rheswm i ddathlu ac yn heidio i ardal Dyfed Powys a Gogledd Cymru i bartïo."

Cafodd fframwaith newwydd ei gyhoeddi amser cinio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sut y gallai Cymru symud allan o'r pandemig.

Bydd yn cynnwys cwestiynau i'w hystyried cyn gwneud penderfyniadau ynghylch llacio cyfyngiadau.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod taw'r cwestiynau yma fydd:

  • A fyddai llacio cyfyngiad yn cael effaith negyddol ar reoli'r feirws?

  • A yw mesur penodol yn peri risg isel o haint pellach?

  • Sut y gellir ei fonitro a'i orfodi?

  • A ellir ei wyrdroi yn gyflym os yw'n creu canlyniadau anfwriadol?Covid-19: Cryfhau rhai o'r cyfyngiadau yng Nghymru

  • A oes ganddo fudd economaidd cadarnhaol?

  • A yw'n cael effaith gadarnhaol ar les pobl?

  • A yw'n cael effaith gadarnhaol ar gydraddoldeb?

Er bod llywodraeth y DU a'r tair llywodraeth ddatganoledig ar y cyfan yn cydweithio ar y cyfyngiadau, mae'r rheolau yn cael eu gwneud a'u cyflwyno fesul gwlad.

Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi dweud y byddai'n barod i "wneud pethau'n wahanol" i'r cenhedloedd eraill pe bai hynny'n iawn i Gymru.

Ddydd Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei strategaeth ar gyfer llacio'r cyfyngiadau gan rybuddio y byddai'n rhaid i bobl "addasu i realiti newydd".