Y gwleidydd ac academydd Tedi Millward wedi marw yn 89 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Tedi Millward wedi cael ei ddisgrifio fel pragmatydd a wnaeth gyfraniad nodedig i lenyddiaeth Gymraeg wedi iddo farw yn 89 oed.
Roedd Edward Glynne Millward - oedd yn cael ei adnabod fel Tedi - yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith yn 1962, ac yn un o'r rhai wnaeth drefnu protest Pont Trefechan i godi ymwybyddiaeth am y Gymraeg.
Bu'n ddirprwy lywydd ar Blaid Cymru, ac fe safodd fel ymgeisydd Seneddol ddwywaith dros y blaid, yn 1966 ac 1970.
Ar raglen y Post Cyntaf, bu'r cyn Aelod Seneddol Cynog Dafis yn rhoi teyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn un oedd yn gwneud "gwaith angenrheidiol".
Roedd yn adnabyddus hefyd fel tiwtor Cymraeg personol y Tywysog Charles pan dreuliodd dymor ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn ei Arwisgiad yn 1969.
Yn ei deyrnged yntau dywedodd y Tywysog fod Dr Millward wedi "helpu i fagu fy nghariad dwfn a pharhaol am Gymru, ei phobl a'i diwylliant".
Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol De Cymru.
Gwasanaethodd hefyd fel llefarydd Plaid Cymru ar bolisi dŵr, ac yn y rôl honno bu'n argymell gweithredu di-drais yn erbyn adeiladu cronfeydd dŵr newydd.
Wedi hynny, fe ganolbwyntiodd ar ei yrfa fel academydd, gan ddarlithio yn y Gymraeg yn Aberystwyth.
Mae'n gadael merch - Llio - ac roedd yn dad i'r diweddar Andras, fu farw yn 2016.
'Cawr tawel'
Dywedodd ei ferch, Llio Millward: "Yn gyntaf oll dwi'n meddwl am fy nhad fel cenedlaetholwr, yr oedd ei angerdd am yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yn arwain pob dim a wnaeth yn ei fywyd… yn bersonol, yn academaidd ac fel ymgyrchydd.
"Dwi'n meddwl amdano fel academydd blaengar ac fel sefydlydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ogystal ag aelod blaenllaw o Blaid Cymru yn y dyddiau cythryblus cynnar.
"Roedd dad yn berson diymhongar tu hwnt a rhaid oedd i mi ei nagio yn ofnadwy i ysgrifennu ei hunangofiant, Taith Rhyw Gymro.
"Ond gallwch weld o'i darllen ei fod, fel dywedodd Jamie Bevan, cyn-arweinydd Cymdeithas yr Iaith, yn y rhagair, wir yn 'un o gewri tawel ein hiaith a'n diwylliant'."
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure: "Roedd Dr Tedi Millward yn ysgolhaig o'r radd flaenaf ac mae'n gadael gwaddol amhrisiadwy a dihafal i genedlaethau'r dyfodol.
"Fe wnaeth gyfraniad sylweddol i'r Gymraeg ac i gymdeithas yn fwy cyffredinol a chaiff ei gofio'n annwyl fel dyn o egwyddor a gonestrwydd.
"Bydd colled fawr ar ei ôl, yn enwedig ym maes y Gymraeg a diwylliant Cymru, meysydd y rhoddodd oes o wasanaeth iddynt. Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu a chyfeillion agosaf."
'Dan gyfaredd y Gymraeg'
Ar raglen y Post Cyntaf ar 28 Ebrill bu'r cyn-Aelod Seneddol dros Blaid Cymru, Cynog Dafis yn rhoi teyrnged iddo.
Dywedodd iddo gael ei fagu heb ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yng Nghaerdydd, ond dod dan gyfaredd yr iaith a hanes Cymru tra'i fod yn y brifysgol yn Aberystwyth.
"Roedd yn un oedd yn gwneud y gwaith angenrheidiol," meddai wrth sôn am ei waith yn dysgu Cymraeg i'r Tywysog Charles.
"Doedd e ddim yn awyddus am y gwaith ond roedd yn gwybod bod yn rhaid i rywun ei wneud e.
"Mae'n nodi yn ei hunangofiant ei fod e wedi rhoi ar ddeall yn glir na fyddai'n cymryd OBE petai'n cael cynnig un, ac roedd yn gwybod bod hynny yn debygol o ddigwydd."
Yn ôl Mr Dafis, beth wnaeth Dr Millward oedd cyfleu fersiwn wladgarol o hanes Cymru i'r tywysog, ac roedd cyfres The Crown ar Netflix wedi llwyddo cyfleu y berthynas rhyngddyn nhw yn dda.
"Mae'r gyfres yn bortread da iawn o Tedi a'r Prince, yn dangos sut y defnyddiodd Tedi'r cyfle i ddylanwadu ar rywun, wedi'r cyfan, sy'n cario hyd heddiw, cryn ddylanwad mewn cylchoedd gwleidyddol," meddai.
"Pragmatydd oedd Tedi. Roedd yn gweld yr angen i wneud rhywbeth a doedd neb yn mynd i'w rwystro rhag gwneud hynny os oedd e'n teimlo bod hynny yn angenrheidiol.
"Roedd yn ddyn oedd yn amharod iawn i ddangos unrhyw deimlad cyhoeddus ond yn yr hunangofiant ry'ch chi yn cael cip ar yr angerdd a'r argyhoeddiad oedd yn ei yrru.
"Rwy'n credu bod ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol Gymraeg yn nodedig. Fe wnaeth e adfer parch llenyddiaeth yr 19fed ganrif a dangos y cyfnod fel un arwrol a chyfoethog iawn."
'Dysgu tipyn ganddo'
Yn ei deyrnged i Tedi Millward dywedodd y Tywysog Charles fod ganddo "atgofion cynnes o fy amser yn Aberystwyth" gyda'i gyn-diwtor.
"Er yn anffodus nad oeddwn i efallai y disgybl gorau, fe ddysgais gryn dipyn ganddo am yr iaith Gymraeg ac am hanes Cymru," meddai.
"Ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, byddaf wastad yn ddiolchgar iddo am helpu i fagu fy nghariad dwfn a pharhaol am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.
"Rwy'n anfon fy nghydymdeimladau dwysaf at ei deulu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019