Taliadau marwolaeth mewn swydd i weithwyr rheng flaen

  • Cyhoeddwyd
MeddygonFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd cymorth ariannol o £60,000 yn cael ei dalu i deuluoedd gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal sy'n marw mewn gwasanaeth o ganlyniad i Covid-19.

Bydd y cynllun yn para dros gyfnod y pandemig, a bydd yn ôl-weithredol o 25 Mawrth 2020.

Ond yn ôl y corff sy'n cynrychioli meddygon, y BMA, dyw'r cynnig ddim yn mynd yn ddigon pell.

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething gyhoeddi'r cynllun brynhawn Llun, gyda chynllun tebyg yn cael ei lansio yn Lloegr.

'Dewrder'

Dywedodd Mr Gething: "Mae ein gweithwyr rheng-flaen yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i ddarparu gofal a gwasanaethau i gleifion, ac i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ledled Cymru.

"Mae eu dewrder ar reng flaen y pandemig hwn yn rhywbeth y mae'r genedl gyfan yn ddiolchgar ac yn falch ohono.

"Bydd cyflwyno'r cynllun hwn gobeithio yn rhoi tawelwch meddwl y bydd eu teulu a'u hanwyliaid yn cael cefnogaeth petai'r gwaethaf yn digwydd."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth fod y newyddion yn "dda os nad ychydig yn hwyr".

"Mae'n rhaid mai'r flaenoriaeth yw sicrhau fod gweithwyr rheng-flaen yn cael eu cadw'n ddiogel yn y gweithle drwy sicrhau fod ganddyn nhw'r offer diogelu mae ei angen arnynt," meddai.

Fe wnaeth llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Angela Burns hefyd groesawu'r newyddion, ond ychwanegodd bod angen mwy o graffu ar y manylion.

'Dim tawelwch meddwl'

Ond dywedodd y corff sy'n cynrychioli meddygon, BMA Cymru, eu bod yn siomedig.

Roedden nhw wedi bod yn pwyso i holl staff y gwasanaeth iechyd dderbyn holl daliadau marwolaeth mewn galwedigaeth, a hyn hyd yn oed os nad oedden nhw'n aelodau o gynllun pensiwn y GIG.

Dywedodd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor BMA Cymru: "Pe bai y taliad unigol yma o bosib yn ymddangos yn fawr, nid yw'n agos i'r arian fyddai teulu yn ei golli pe bai eu hanwylon wedi gallu gweithio at ddiwedd gyrfa heb farw'n gynnar o ganlyniad i wasanaethau ar y rheng-flen.

"Rydym yn gofyn cymaint ohonynt ond nid yw hyn yn rhoi tawelwch meddwl i'w teuluoedd."