Arestio dau ar ôl i fenyw gael ei 'saethu â bwa croes'

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o bobl wedi'u harestio ar ôl i fenyw gael ei saethu â'r hyn mae'r heddlu'n credu yw bwa croes, yn ystod ymgais i ladrata.

Cafodd swyddogion eu galw i Siop Blackmill ym Mryncethin, Pen-y-bont ar Ogwr ychydig ar ôl 19:00 ddydd Llun.

Dywed Heddlu De Cymru bod gweithiwr y siop wedi cael mân anafiadau.

Cafodd dyn a menyw, y ddau yn 34 oed, eu harestio ar amheuaeth o ladrad yn fuan wedi hynny ac maen nhw'n y ddalfa.

Mae'r dyn hefyd wedi'i arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.