Huw Edwards 'wedi cael Covid-19' yn ddiweddar
- Cyhoeddwyd
Mae'r newyddiadurwr a darlledwr Huw Edwards wedi datgelu ei fod wedi dioddef cyfnod o salwch o'r gwaith am dair wythnos ar ôl dioddef yr hyn y mae'n ei amau oedd coronafeirws.
Wrth ysgrifennu yng nghylchgrawn Barn,, dolen allanol dywedodd ei fod wedi datblygu symptomau tra'n cerdded yng Nghaint ganol fis Mawrth.
Daeth y cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol llym i rym ar 23 Mawrth yn y DU.
Er na chafodd ei brofi am coronafeirws, dywedodd fod meddyg oedd yn ei drin ar y pryd "yn gwbl argyhoeddedig mai Covid-19 oedd wrth wraidd y peth".
'Tostrwydd ffyrnig'
Dywedodd ei fod wedi dychwelyd i'r gwaith wedi cyfnod o orffwys "gan ddeall yn iawn beth oedd natur ffyrnig y tostrwydd".
Roedd wedi bod ar daith gerdded 10 milltir o hyd rhwng Faversham a Seasalter - taith mae fel arfer yn ei chwblhau'n ddigon rhwydd.
"Serch hynny fe roes y daith yn ôl broblem enfawr i mi," dywedodd. "Datblygais boenau enbyd yn y coesau a'r cluniau a'r ysgwyddau."
Bu bron iddo fethu â dal y trên yn ôl i Lundain, "a dyna ddechrau profi effeithiau niwmonia, a'r meddyg yn gwbl argyhoeddedig mai Covid-19 oedd wrth wraidd y peth, er na chafwyd unrhyw brawf o hynny yn ffurfiol".
Yn yr un erthygl ar gyfer Barn, fe amddiffynnodd ddidueddrwydd y BBC, gan ddweud fod y gorfforaeth yn profi ymosodiadau o'r dde a'r chwith yn wleidyddol.
"Gwas chwipio cyfleus i wleidyddion o bob lliw fu'r BBC erioed," meddai.
Wrth drafod dyfodol y BBC, fe ddywedodd mai gwaith y BBC oedd i "osod y ffeithiau yn glir" a bod "cyfraniad a chyrhaeddiad y BBC yn ddiymwad".
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees