Twf y diwydiant gemau yn ystod y cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ddiwydiannau'n ei chael hi'n anodd yn ystod cyfyngiadau coronafeirws, ond mae 'na un diwydiant sy'n ffynnu yn ystod y cyfnod ansicr - y diwydiant gemau fideo.
Ers i'r cyfyngiadau ar symud ddod i rym, a'n bod yn treulio rhagor o amser yn ein cartrefi, mae'n debyg ein bod ni'n rhoi rhagor o sylw i'r bocsys bach electronig o dan y teledu.
Yn ôl cwmni ymchwil FutureSource mae 'na gynnydd o dros 20% wedi bod mewn defnydd wythnosol yn y DU ers dechrau'r cyfyngiadau - gyda gwerthiant wythnosol yn codi rhwng 40 a 60% ar un adeg.
Mae hynny'n eitha' anghyffredin gan ein bod mewn blwyddyn o newid, gyda disgwyl lansiad cenhedlaeth newydd o beiriannau - fel y Playstation 5, a'r Xbox X - erbyn diwedd y flwyddyn.
Ond yn wahanol i'r arfer dyw'r rheiny sy'n chwarae gemau fideo ddim wedi dal nôl rhag gwario.
Dau sydd wedi bod yn chwarae rhagor y gemau yn ddiweddar yw Alice sy'n byw ger Llandysul, ac Edward Lewis sy'n byw yng Nghaerdydd.
"Fi'n hoffi chwarae gemau fideo achos maen nhw'n ddiddorol, ac maen nhw'n rhoi rhywbeth i fi 'neud yn ystod yr amser sydd da fi," meddai Alice, sy'n 15 oed.
"Cyn y lockdown o'dd 'da fi waith ysgol i'w wneud, ond nawr achos bod yr exams wedi cael eu canslo s'da fi ddim byd i'w wneud, so fi'n chwarae loads mwy o gemau.
"Mae 'da fi chwaer, a ni'n treulio amser ar y Nintendo Switch gyda'n gilydd yn chwarae gemau fel Mario Kart a Just Dance.
"Mae hefyd ffrindiau 'da fi sydd gyda'r Switch sy'n chwarae ar-lein hefyd, so ni'n gallu cysylltu gyda'n gilydd a chwarae gemau gyda'n gilydd ar-lein."
"O'n i wedi tyfu lan gyda phethe fel y Playstation 2, felly fi'n teimlo fel bod fi wastad wedi bod yn rhan o'r generation sydd wedi bod o gwmpas video games," meddai Edward Lewis, sy'n 25 oed.
"Mae'r rhan fwya' o'r gemau fi'n chwarae yn based ar be mae ffrindiau fi'n chwarae, so pan 'naeth lot o ffrindie arall ddweud 'ni'n mynd i gal PS4' o'n i fel 'reit fi'n mynd i gael PS4 hefyd'.
"No doubt bo' fi'n chwarae mwy ers y lockdown.
"O'n i'n falle chwarae cwpl o oriau'r wythnos, ond yn y mis diwetha', ar ôl i ti wotcho popeth sydd ar Netflix, yr unig beth sydd 'da fi i 'neud nawr yw chwarae gemau."
Yn ôl Dafydd Prys o Fideo Wyth, mae'r diwydiant gemau yn gwneud yn dda ar hyn o bryd, ond mae 'na ansicrwydd am y tymor hir.
"Mae'r diwydiant wedi tyfu yn anferthol jest yn y chwe wythnos ddiwetha' o ran nifer y bobl sy'n ymwneud efo pob rhan o'r maes," meddai.
"Lle sy'n cael ei effeithio fwya' yw'r ochr gynhyrchu, ond wrth gwrs, os oes 'na gwmnïau allan yna sy'n gallu delio efo gweithio o bell, cwmnïau gemau yw'r rheiny.
"O ran y diwydiant, fydda i'n siŵr ar hyn o bryd eu bod nhw'n hapus iawn, ond wrth gwrs y broblem go iawn yw edrych ar ddiwedd y flwyddyn - beth sy'n mynd i ddigwydd i'r gemau massive sydd fod i ddod allan y flwyddyn yma?
"Ac wedyn y pethau mawr go iawn - Xbox X, a'r PS5 - ydyn nhw'n mynd i gyrraedd y flwyddyn yma?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020