Mwyafrif o blaid cyfyngiadau Covid-19 medd arolwg

  • Cyhoeddwyd
CyfyngiadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tua dau berson o bob tri yn credu bod y cyfyngiadau i reoli coronafeirws yn briodol, yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ogystal â monitro a rheoli ymlediad Covid-19, mae'r awdurdod hefyd yn asesu hwyliau cannoedd o oedolion bob wythnos.

Roedd y cyfyngiadau ar fywyd yn addas meddai 67% o'r rhai gafodd eu holi rhwng 20 a 26 Ebrill.

Roedd yna gefnogaeth a hyder yn y gwasanaeth iechyd hefyd meddai'r arolwg, ond fe ddywedodd 19% o bobl eu bod yn poeni am eu hiechyd meddwl.

Cipolwg ar agweddau

Mae'r arolwg yn rhoi cipolwg ar sut y mae pobl yn ymdopi a sut mae eu hymddygiad yn newid.

  • Dywedodd 38% o bobl eu bod yn bwyta mwy o greision, bisgedi a chacennau nag arfer;

  • Doedd bron i draean (32%) ddim yn cysgu cystal ag arfer;

  • Er bod 31% wedi gadael cartref bob dydd i ymarfer corff, doedd 13% ddim wedi mynd allan o gwbwl am wythnos gyfan.

Dywedodd yr Athro Karen Hughes, sy'n cydlynu'r arolwg: "Mae'n hanfodol ein bod yn deall sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar les pobl ledled Cymru ac yn addasu'r cyngor a'r gefnogaeth a ddarparwn i helpu gyda'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu."