Plaid Cymru'n ystyried mynd i'r gyfraith dros enw plaid arall
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru yn paratoi i fynd â'r Comisiwn Etholiadol i'r llys oherwydd ffrae dros enw plaid wleidyddol arall.
Cafodd y blaid newydd, Welsh National Party (WNP) - sy'n cael ei harwain gan gyn-AC Plaid Cymru, Neil McEvoy - ei chofrestru ym mis Ionawr, gyda sêl bendith y comisiwn.
Ond gwrthododd y comisiwn gefnogi enw Cymraeg y blaid, sef Plaid Genedlaethol Cymru, am y gallai ddrysu etholwyr oherwydd ei debygrwydd i enw Plaid Cymru.
Galw am adolygiad barnwrol
Un o ddadleuon Plaid Cymru dros gael adolygiad barnwrol yw ei fod yn "afresymol" i gadw'r enw Saesneg pan fod y Comisiwn Etholiadol wedi gwrthod fersiwn Cymraeg yr enw.
Mae'r dadleuon eraill yn cynnwys:
Methiant y Comisiwn i ystyried y tebygolrwydd uchel y byddai'r cyfieithiad Cymraeg o'r enw Welsh National Party yn dod yn gyffredin yng nghyd-destun statws swyddogol cyfreithiol yr iaith Gymraeg;
Methiant y Comisiwn i roi eglurhad digonol pam na fyddai'r enw Saesneg yn debygol o achosi dryswch i etholwyr, tra'n derbyn y byddai'r enw Cymraeg yn gwneud hynny.
Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod yn barod i ddod ag adolygiad barnwrol yn erbyn y penderfyniad, os nad yw'r comisiwn un ai'n diddymu cofrestriad yr enw Welsh National Party neu'n cwblhau adolygiad pellach o'r broses gofrestru.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Fe fydd Plaid Cymru wastad yn diogelu ei diddordebau ac mae hynny'n cynnwys diogelu ei henw hanesyddol.
"Credwn fod prosesau'r Comisiwn Etholiadol yn ddiffygiol a'u bod wedi ymddwyn yn anghyfreithlon."
'Datblygiad anarferol'
Ym mis Hydref 2019, penderfynodd Neil McEvoy, arweinydd y WNP, beidio parhau â'i gais i ail-ymuno â Phlaid Cymru.
Cafodd ei ddiarddel o Blaid Cymru yn 2018 ar ôl i banel disgyblu ei gael yn euog o gamymddwyn, cyhuddiad oedd yn deillio o ymddygiad aflonyddgar honedig yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid yn 2017.
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol eu bod yn ystyried eu hymateb i lythyr Plaid Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y WNP: "Tra bod gweddill y byd yn canolbwyntio ar y pandemig coronafeirws mae'n ymddangos bod Plaid Cymru'n canolbwyntio ar achub eu crwyn gwleidyddol trwy fynd i'r llys i geisio newid enw plaid wleidyddol arall. Mae'n ddatblygiad anarferol.
"Mae'n ffaith bod y Comisiwn Etholiadol eisoes wedi derbyn Welsh National Party fel ein henw, a chadarnhawyd hynny wedi adolygiad swyddogol.
"Bellach mae gennym AC yn y Cynulliad Cenedlaethol a chynghorwyr yng ngogledd a de Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020