Cofnodi 44 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cofnodi 44 yn rhagor o farwolaethau gyda coronafeirws yng Nghymru ddydd Sadwrn.

Bellach mae cyfanswm o 969 o bobl wedi marw gyda Covid-19 yma.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y 44 marwolaeth sydd wedi eu cofnodi yn cynnwys 11 hysbysiad o farwolaethau gafodd eu hadrodd rhwng dydd Mawrth a dydd Iau diwethaf.

Yn ogystal, fe gofnodwyd fod 183 o achosion newydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru gan fynd â'r cyfanswm i 10,155.

Gallai'r gwir ffigwr o farwolaethau ac achosion fod yn sylweddol uwch, gan nad oes profion yn cael eu cynnal yn eang yn y gymdeithas.

Cyrraedd pegwn achosion

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru ein bod wedi mynd heibio'r pegwn o ran nifer achosion yng Nghymru bellach.

Mewn datganiad, dywedodd Dr Chris Williams o'r sefydliad:

"Mae'n ymddangos ein bod wedi mynd heibio'r pwynt uchaf a bod yr achosion newydd o coronafeirws Newydd yn disgyn yng Nghymru sy'n ymddangos yn arwydd o effeithiolrwydd y mesurau cyfyngiadau symud.

"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i benderfynu ar y dull gorau pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Yn y cyfamser, mae'r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau i fod mewn grym. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llwyr gefnogi rheoliadau aros gartref diwygiedig Llywodraeth Cymru. Nid yw'r neges wedi newid - gall unrhyw un gael ei heintio â coronafeirws a gall unrhyw un ei ledaenu.

"Mae Covid-19 yn dal i gylchredeg ym mhob rhan o Gymru, a'r cam pwysicaf un y gall pob un ohonom ei gymryd wrth ymladd y feirws yw aros gartref.

Ychwanegodd: "Er ein bod am bwysleisio pwysigrwydd aros gartref, hoffwn atgyfnerthu'r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd".

Profi mewn cartrefi gofal

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd holl drigolion a staff mewn cartrefi gofal lle mae achosion o coronafeirws yn cael eu profi am y feirws.

Yn ei gynhadledd ddyddiol ddydd Gwener fe awgrymwyd hyn gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, a daeth cadarnhad o hyn gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ddydd Sadwrn.

Yn gynharach yr wythnos hon roedd y llywodraeth wedi dod o dan y lach gan weithwyr gofal a'r gwrthbleidiau am beidio ag ehangu'r profion i gynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal Cymru.

Roedd beirniadaeth wedi dod o gyfeiriad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am y penderfyniad hwnnw hefyd. Dywedodd Helena Herklots fod angen newid y drefn i gyd-fynd gyda'r hyn oedd yn digwydd yn Lloegr "fel mater o frys".

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud "tro pedol" o ganlyniad i'r newid cyfeiriad mewn polisi ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth: "Daw'r cam hwn wrth i'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ddangos y dylid ymestyn profion mewn cartrefi gofal i reoli achosion sy'n codi.

"Yn achos cartrefi gofal, lle mae nifer o bobl hŷn yn cyd-fyw yn agos, a lle mae gan sawl un ohonynt gyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes, os bydd canlyniadau'r profion yn bositif, byddwn yn tybio - a chymryd camau gweithredu - fel petai pawb yn y cartref wedi cael canlyniad positif."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y bydd ehangu'r profion mewn cartrefi gofal yn gymorth i reoli achosion sy'n codi

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae dau brif nod gan ein cynllun profi cenedlaethol - lleihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan y coronafeirws a helpu pobl a gweithwyr proffesiynol i ailgydio yn eu bywydau arferol o ddydd i ddydd.

"Rydym yn dysgu mwy am y coronafeirws bob dydd - mae'r dystiolaeth yn newid ac yn datblygu drwy'r adeg ac rydym yn ei hadolygu'n rheolaidd.

"Ar hyn o bryd, nid yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen profi pobl yn gyffredinol os nad oes ganddynt symptomau.

"Ond mewn cartrefi gofal, lle bydd gan rai bobl symptomau'r coronafeirws, ond nid eraill, mae pwrpas profi pawb, gan gynnwys y rhai heb symptomau - byddwn yn gwneud hyn er mwyn helpu i reoli achosion sy'n codi."

Mae'r system newydd tri cham o brofi ac ymateb yn gyflym yn cael ei chyflwyno er mwyn helpu i ddiogelu preswylwyr a staff cartrefi gofal medd y llywodraeth.

'Tro pedol'

Dywedodd Janet Finch Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ofal cymdeithasol, fod y penderfyniad yn "dro pedol" o ran polisi'r llywodraeth. Ond fe ychwanegodd y byddai'r newyddion yn cael ei groesawu gan breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal.

"Fe all cynnal profion fod o gymorth i leihau ymlediad y feirws marwol ac erchyll yma, sy'n cael effaith ddinistriol ar y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas," meddai.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â'u tro pedol gan ehangu profion i holl drigolion a staff cartrefi gofal."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y polisi newydd yn un "amheus", gan ofyn: "Beth am brofi staff a thrigolion ym mhob cartref?"

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth "er mwyn gweld sut a pham mae'n wahanol i dystiolaeth ryngwladol ac arfer gorau sy'n hyrwyddo profion cyffredinol ar holl staff a thrigolion cartrefi gofal".