Ystyried agor ysgolion i rai disgyblion ym Mehefin

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai ysgolion Cymru ail-agor i rai disgyblion yn gynnar ym mis Mehefin meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Bydd trafodaethau'n cael eu cynnal yr wythnos hon i weld os oes modd llacio rhai o fesurau'r cyfyngiadau cymdeithasol, ac fe fydd galluogi mwy o blant i ddychwelyd i'r ysgol yn un opsiwn fydd yn cael ei hystyried.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr fore dydd Sul, dywedodd Mr Drakeford: "Ein cyngor gan yr undebau llafur a gan yr awdurdodau addysg lleol yw y bydd angen o leiaf tair wythnos o'r pwynt pan fyddwn yn penderfynu gwneud hyn i pan fydd ysgolion yn gallu ail-agor, felly rydym yn siarad am ddechrau Mehefin."

Dywedodd fod swyddogion yn edrych os oedd modd i rai grwpiau ddychwelyd i ysgolion cyn plant eraill, gan gynnwys plant gydag anghenion addysg arbennig, disgyblion ym mlwyddyn chwech sydd yn symud i ysgolion uwchradd yn y flwyddyn academaidd nesaf, a disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.