'Dwi di bod yn chwilio am y cerdyn post ers 50 mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pwy yw'r ferch fach 'na yn y pinc tu allan y caffi?

Wrth i nifer rannu lluniau plentyndod ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgil cyfyngiadau coronafeirws, mae un ddynes o ardal Abertawe wedi canfod cerdyn post ohoni ei hun yn ferch ifanc ar wefan eBay.

Mae Catrin Alun wedi bod yn chwilio am y llun ers degawdau a phythefnos yn ôl tra'n methu cysgu aeth i chwilio'r we a chanfod y cerdyn post y mae wedi bod yn chwilio amdano gyhyd.

"Mae'r cerdyn yn dyddio nôl i tua 1971 a dwi yn y llun - ie fi yw'r un efo pony tail yn y wisg binc 'na ar Castle Street yng Nghonwy," meddai.

"Dros bob gwyliau haf bydden i'n mynd i weithio i gaffi yn y dre - o'n i'n mynd i aros 'da fy modryb yng Nghonwy a chael gwyliau a gweithio ar yr un pryd.

"Rhywsut neu'i gilydd sylweddolais i bod y cerdyn yma'n bodoli efo fy llun i'n cerdded lawr y stryd - dim ond fy nghefn i sydd yn y golwg efo fy ngwallt i mewn pony tail yn gwisgo oferôl wen efo smotiau pinc arni...o'dd yr oferôl 'ma yn special iawn - doedd neb arall ag oferôl fel hon."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Prysurdeb Conwy heddiw

Ychwanegodd Catrin ei bod yn casglu cardiau post a bod ganddi gasgliad o 500 i 600 ond doedd y cerdyn yma ddim yn eu plith.

"Dwi wedi bod eisiau cael gafael ar y cerdyn - a rhyw bythefnos yn ôl oedd o'n i methu cysgu ac es i googlo y we am Castle Street, Conwy a rhywsut dyma'r cerdyn yn dod i'r golwg - ac mae'r cerdyn bellach yn eiddo i fi - mae fel newydd."

'Atgyfnerthu atgofion'

Ond pam tybed ei bod yn ysu i gael y cerdyn? "Dim blymin clem," meddai Catrin, "mae rhai pethau yn ein bywydau 'da ni'n difaru 'dan ni ddim wedi cael nhw ar y pryd ac mae hwn yn un honyn nhw.

"Ro'wn yn gwybod bod y cerdyn yn bodoli ac mae'n helpu i atgyfnerthu atgofion sydd gen i am y cyfnod - mae'n dod yn ôl â phetha fel mynd i'r pictiwrs yng Nghonwy ar nos Iau i weld y ffilmiau diweddaraf - waw!"

Ffynhonnell y llun, Catrin Alun
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar mae teulu Catrin wedi dechrau hel hen luniau a dyma Catrin ei hun yn fabi

Dywed Catrin bod ei theulu hefyd wedi dechrau hel hen luniau.

"Mae gynnon ni lot o amser nawr i hel meddyliau heblaw sôn am hel lluniau - wedyn dwi'n meddwl bo ni'n mynd dros yr hen lwybrau a meddwl a hen ffrindiau a thrwy hynny chwilota.

"Ma'n teulu ni ar hyn o bryd yn edrych ar luniau teulu dad yng Nghaernarfon - ac mae'r cyfnitherod a'r cefndryd yn rhannu trwy Facebook - mae hwnna'n gret achos 'da ni'n gweld lluniau 'da ni erioed wedi'u gweld o'r blaen - lluniau o 30au y ganrif ddiwethaf - mae hynna'n rhywbeth gwych."

Disgrifiad o’r llun,

Catrin Alun yw'r ferch fach sy'n gwisgo pinc y tu allan i'r caffi

O gael ei holi a ydi hi wedi newid ers y llun yna yn nechrau'r 70au, dywedodd Catrin: "Yr un ydw i - dwi'm yn teimlo dim hŷn nag oeddwn i yn y llun - petawn i'n ffindio'r overôl pinc 'na a smotiau pinc, fyddwn i'n iawn!"

Mae modd gwrando ar y sgwrs yn llawn a'r drafodaeth yn dilyn hynny ar rifyn dydd Sul 3 Mai o Bwrw Golwg.