Llywodraeth Cymru'n 'edrych yn fanwl' ar lacio cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Dr Meirion Evans yn un o brif ymgynghorwyr meddygol y llywodraeth

Mae un o brif ymgynghorwyr meddygol Llywodraeth Cymru wedi dweud mai "gadael plant 'nôl i'r ysgol" fydd un o'r camau cyntaf wrth lacio'r cyfyngiadau.

Wrth i nifer yr achosion a marwolaethau o Covid-19 leihau yng Nghymru, mae Dr Meirion Evans yn credu ei bod yn amser ystyried llacio rheolau.

Ond mae hefyd yn pwysleisio bod angen brechlyn ar gyfer Covid-19.

Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y cyfyngiadau yng Nghymru wedi cynorthwyo i leihau ymlediad coronafeirws.

Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai ei lywodraeth yn adolygu'r cyfyngiadau ar fywyd pob dydd yn ddiweddarach yn yr wythnos, gan bwysleisio hefyd fod angen i'r cyhoedd fod yn hyderus cyn y bydd llacio ar unrhyw fesurau neu gyfyngiadau.

Y gobaith am 'frechlyn effeithiol'

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio gyda Dewi Llwyd ddydd Llun, rhybuddiodd Dr Meirion Evans nad oedd hi'n debygol "y bydd ysgolion yn mynd 'nôl yn hollol i'r normal".

Ond ychwanegodd "gyda brechlyn sy'n effeithiol dylen ni ddim gweld llawer mwy o'r Covid-19 yma".

Ychwanegodd fod y gobaith o'i waredu yn dibynnu ar "faint mor effeithlon fydd y brechlyn a faint o bobl fydd yn cael eu himiwneiddio".

Fe gafodd ei holi am y gofid fod ardaloedd gwledig fel gorllewin a gogledd Cymru eto i weld y pen llanw o achosion a marwolaethau.

"Dwi ddim yn meddwl fod hynna'n debygol o ddigwydd," meddai, gan esbonio fod achosion wedi lleihau ym mhob man.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 14 yn rhagor o farwolaethau eu cofnodi ddydd Llun - gan fynd â'r cyfanswm i 997

Ond rhybuddiodd mai'r "pryder mawr wrth gwrs yw'r posibiliad y gallai hyn ddychwelyd".

"Rydyn ni nawr yn dechrau edrych yn fanwl ar sut fath o fesurau ddylen ni eu llacio," meddai.

"Mae'n bwysig cael y drefn yn iawn a mynd un cam ar y tro i sicrhau na fydd nifer achosion y feirws yn dychwelyd.

"Ry'n ni'n cael sgwrs am pryd fyddwn ni'n gadael plant yn ôl i'r ysgol.

"Mae hynny'n hollbwysig achos mae llawer o fesurau eraill - fel gadael rhai pobl i fynd 'nôl i'r gwaith - yn dibynnu ar sicrhau bod plant yn yr ysgol ar yr un pryd."

Eglurder ar sylwadau Drakeford

Yn y gynhadledd ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford ei fod am gymryd y cyfle i egluro yn union beth yr oedd wedi ei ddweud ynglŷn ag ysgolion yn ailagor.

Dywedodd nad oedd wedi dweud y byddan nhw'n ailagor ddechrau Mehefin fel roedd rhannau o'r wasg wedi adrodd, meddai.

"Ar ôl trafodaethau gyda'r undebau ac eraill, beth ddywedais oedd y byddai'n cymryd o leiaf tair wythnos o'r penderfyniad i'r ysgolion allu ailagor.

"Pe bai'r penderfyniad wedi ei wneud ddoe, yna byddai'r ysgolion wedi agor ar y cynharaf ddechrau Mehefin."

Ychwanegodd nad oedd y penderfyniad wedi ei wneud eto.