Dryswch am sylwadau agor ysgolion Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
bachgen gyda chliniadurFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae undebau addysg wedi datgan dryswch yn dilyn sylwadau'r Prif Weinidog Mark Drakeford am amserlen Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion.

Roedd Mr Drakeford wedi awgrymu y gallai rhai o ysgolion Cymru ailagor i rai disgyblion yn gynnar ym mis Mehefin, wrth siarad ar raglen Andrew Marr fore dydd Sul.

Bydd trafodaethau'n cael eu cynnal yr wythnos hon i weld os oes modd llacio rhai o fesurau'r cyfyngiadau cymdeithasol, ac fe fydd galluogi mwy o blant i ddychwelyd i'r ysgol yn un opsiwn i'w ystyried, meddai.

Dywedodd Mr Drakeford ar y rhaglen: "Ein cyngor gan yr undebau llafur a gan yr awdurdodau addysg lleol yw y bydd angen o leiaf tair wythnos o'r pwynt pan fyddwn yn penderfynu gwneud hyn i pan fydd ysgolion yn gallu ailagor, felly rydym yn siarad am ddechrau Mehefin."

'Angen amser paratoi'

Ond wrth siarad ar raglen Politics Wales yn ddiweddarach dydd Sul, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles: "Nid ydym yn dweud y bydd ar ddechrau Mehefin. Rydym yn dweud fod angen amser paratoi fel y gall ysgolion ac awdurdodau addysg lleol addasu i hyn".

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud am pa bryd y bydd ysgolion yn ailagor.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Drakeford yn siarad ar raglen Andrew Marr fore dydd Sul

Cafodd geiriau Mr Drakeford eu dadansoddi fel awgrym o'r amserlen dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru i ail-agor ysgolion yn raddol, ond dywedodd un undeb addysg nad oeddynt wedi bod yn rhan o'r drafodaeth, ac nid oedd unrhyw drafod wedi bod am ailagor ym Mehefin.

Amheuon undebau addysg

Dywedodd undeb NAHT Cymru mewn neges ar Twitter: "Dryswch dros ailagor ysgolion gyda'r prif weinidog yn sôn am Fehefin ar raglen Marr. I egluro, nid yw Mehefin wedi ei drafod yn ystod trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r undebau llafur. Nid yw dyfalu am ddyddiau yn helpu.

"Mae NAHT Cymru yn cefnogi ailagor ysgolion pan mae'r dystiolaeth feddygol a gwyddonol yn cefnogi hyn, fel ddywedodd y gweinidog addysg. Rhaid i'r proffesiwn fod wrth galon unrhyw drafodaethau - mae iechyd a lles staff a disgyblion yn hanfodol."

Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb yr arweinwyr ysgolion a cholegau, ASCL Cymru: "Mae'r prif weinidog wedi awgrymu y gallai ysgolion ailagor ar ddechrau Mehefin.

"Byddem yn rhybuddio yn erbyn gosod dyddiad penodol ar yr adeg yma, ac i sicrhau fod yr amgylchiadau'n iawn i ddechrau.

"Rydym yn hapus i gynllunio ar gyfer dyddiad arfaethedig, ond byddem yn annog fod angen nodi bod modd symud dyddiad ymlaen o'r cychwyn os oes angen mwy o amser.

'Cam wrth gam'

Ychwanegodd: "Rydym yn croesawu'r ystyriaeth a'r gofal y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i ailagor ysgolion. Ac rydym yn cytuno mai'r unig ffordd realistig o wneud hyn drwy gadw at fesurau pellter cymdeithasol, gam wrth gam, lle mae rhai grwpiau o blant yn mynd i mewn gyntaf.

"Bydd yn rhaid i'r dull y mae hyn yn cael ei reoli ei arwain gan gyngor iechyd cyhoeddus a gwyddonol i sicrhau fod disgyblion, rhieni a staff yn hyderus fod dychwelyd i'r ysgol yn beth diogel i'w wneud.

"Bydd hon yn dasg gymhleth ac anodd ac mae llawer o waith sydd angen ei wneud er mwyn gwneud hyn yn gywir. Dyna pam mae'n rhaid cadw dyddiad unrhyw ailagor i'w adolygu."