Cyhuddo tri wedi i gar gael ei yrru at bobl yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Bydd tri dyn yn ymddangos yn y llys fis nesaf wedi eu cyhuddo o ymosod ar ôl digwyddiad ble cafodd car ei yrru tuag at bobl yn Aberystwyth y llynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Marine Terrace yn Aberystwyth toc cyn 05:00 fore Sadwrn, 5 Hydref yn dilyn adroddiadau fod car yn gyrru'n beryglus.
Fe gafodd un dyn ei drin am fân anafiadau wedi'r digwyddiad.
Mae'r dyn cyntaf - dyn 29 oed o Birmingham - wedi'i gyhuddo o dri achos o ymosod, difrod troseddol i gell heddlu a gwrthod darparu prawf anadl.
Mae'r ddau arall - dyn 33 oed o Birmingham a dyn 24 oed o Solihull - yn wynebu cyhuddiad o ymosod.
Mae'r dyn 24 oed hefyd wedi'i gyhuddo o gael canabis yn ei feddiant.
Mae disgwyl i'r tri dyn ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 17 Mehefin.