Dyn wedi marw ar ôl ymosodiad gan ychen-yr-afon

  • Cyhoeddwyd
Gwehelog
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad masnachol ym mhentref Gwehelog ddydd Mawrth

Mae dyn wedi marw ar ôl i ychen-yr-afon (water-buffalo) ymosod ar dri o bobl yn Sir Fynwy.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i gyfeiriad masnachol ym mhentref Gwehelog ger Brynbuga am 14:50 ddydd Mawrth.

Bu farw dyn 57 oed yn y fan a'r lle, meddai'r heddlu.

Cafodd dyn 19 oed ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag "anafiadau difrifol iawn".

Fe gafodd menyw 22 oed "anaf difrifol i'w choes", ac fe gafodd hithau ei chludo i'r ysbyty.

Cadarnhaodd yr heddlu hefyd bod yr anifail wedi cael ei ddifa.

Dywedodd cymydog fod yr anifeiliaid yn olygfa gyfarwydd ar y fferm ac yn aml i'w gweld yn y caeau gyda'r ceffylau.

Ychwanegodd bod yr ych bob amser yn ymddangos yn eithaf tawel, a bod y perchnogion wedi cael eu gweld yn eu mwytho.