Chwalu'r chwedlau am coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd y cyfryngau cymdeithasol wedi golygu y gallwn gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu yn haws, sy'n bwysicach nag erioed yn ystod y cyfnod yma o ymbellhau cymdeithasol.
Fodd bynnag, mae'n wirioneddol drist y bydd yr argyfwng iechyd hwn yn dod â'i bandemig ei hun o wybodaeth anghywir a chamddealltwriaeth.
Mae hi'n bwysicach nag erioed i gymryd amser a meddwl am yr hyn rydyn ni'n ei ddarllen, cyn gwasgu'r botwm 'rhannu'. Gall fake news ledaenu hyd yn oed yn gyflymach na'r feirws, ac achosi dinistr tebyg.
Anodd gwahaniaethu
Rhaid i ni ofyn i'n hunain beth mae'r newyddion yn ceisio ei ddangos. Er enghraifft, pe bawn i'n dweud fod yr awyr yn goch, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud fy mod i'n anghywir, a byddai rhai yn dweud ei fod weithiau yn goch yn y boreau a'r nosweithiau. Ond os ofynnwch i ffisegydd, bydden nhw'n dweud bod tonfedd y lliw coch bob amser yn bresennol, ac felly mae'r datganiad yn wir.
Mae yna elfen o wirionedd bob amser mewn stori 'ffug', a dyna sy'n ei gwneud hi mor anodd i wahaniaethu rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthym y dylem ei gredu, a'r hyn sydd yn gywir.
Wrth gwestiynu'r gwyddoniaeth mae'n bwysig dangos ychydig o amheuaeth gwyddonol iach a sylweddoli bod y canlyniadau'n aml yn dibynnu ar y cyd-destun.
Gadewch i ni fynd trwy rai o'r straeon sy'n ymwneud â gwyddoniaeth COVID-19:
Gall haul ladd coronafeirws
Mae pelydrau'r haul wedi bod yn arbennig o gryf dros yr wythnosau diwethaf, gan roi cyfle i ni fynd allan i'n gerddi a mwynhau. Mae'n wir bod pelydrau uwch-fioled (UV) a gwres pwerus yn cael eu defnyddio fel diheintydd, ond er fod yr haul yn teimlo'n hyfryd â chynnes ar ein croen, nid yw'r gwres UV ac is-goch sy'n cael ei roi gan yr haul yn ddigon pwerus i'w defnyddio fel diheintydd effeithiol yn erbyn coronafeirws na unrhyw feicro-organeb arall.
Ond, wrth gwrs, mae'n dal i fod yn ddigon pwerus i achosi niwed i'r croen ei hun! Gallai'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r haul fel arf yn erbyn coronafeirws ystyried canlyniadau'r effaith y gallai ei gael ar eu hiechyd eu hunain, fel llosg haul neu ganserau posib.
Mae COVID-19 yn dymhorol
Mae'n wir bod y rhan fwyaf o achosion o feirysau yn dymhorol. Er enghraifft, mae'r ffliw fwyaf heintus yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae hyn wedi achosi straeon y bydd SARS-CoV-2, sef y feirws sy'n gyfrifol am COVID-19, yn dilyn yr un patrwm. Ond anaml y mae pandemigau yn ymddwyn yn yr un modd ag achosion tymhorol.
Mae SARS-CoV-2 yn straen newydd o coronafeirws, ac nid yw gwyddonwyr yn gwybod eto sut bydd yn ymateb i dywydd sydd yn fwy cynnes. Mae gwyddonwyr yn casglu mwy o ddata am SARS-CoV-2 a'i ymddygiad, ac nid yw hi'n syniad da i ddod i gasgliadau cyn bod gennych chi'r holl ffeithiau.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
EGLURO: Y gwyddoniaeth tu ôl i COVID-19
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Mae COVID-19 yn cael ei ledaenu trwy giatiau a pharseli
Nid yw 'ydy arwynebau yn heintus neu beidio' yn gwestiwn syml ydy neu nac ydy. Mae'n fwy o gwestiwn o debygolrwydd, ac mae gan y mwyafrif o arwynebau tebygolrwydd neu risg isel o fod yn heintus.
Yn gyntaf mae angen i feirws setlo, goroesi, ac yna bod yn bresennol mewn niferoedd digon uchel i allu heintio rhywun. Cofiwch, yn wahanol i facteria, ni all feirws atgynhyrchu ar arwynebau er mwyn cynyddu eu niferoedd; dim ond yng nghelloedd corff rhywun mae feirysau yn gallu atgynhyrchu.
Mae SARS-CoV-2 yn cael ei wasgaru trwy ddiferion sy'n cael eu rhyddhau pan fydd person heintus yn pesychu neu'n tisian. Mae ymchwil yn dangos y gallai'r feirws oroesi yn y diferion yma am hyd at dair awr ar ôl iddyn nhw adael y corff.
Gall SARS-CoV-2 oroesi hyd at 72 awr ar arwynebau caled fel plastig a dur gwrthstaen ar dymheredd o 21-23C, ond nid yw'n goroesi'n dda ar gardfwrdd. Y gred ydy y gall y ffibrau naturiol amsugnol mewn cardfwrdd achosi'r feirws i sychu'n gyflymach nag ar fetel neu blastig, gan wneud y risg o ledaenu SARS-CoV-2 drwy barseli yn isel iawn.
Yn aml mae'n achos o beidio â gofyn beth sy'n bosib, ond yn hytrach beth sy'n debygol.
Yn wir, gall y feirws oroesi ar fetel fel giât am hyd at 72 awr. Ond cafodd y prawf yma ei gynnal mewn amgylchedd o dan reolaeth labordy, heb aer i effeithio ar sut mae'r gronynnau firaol yn setlo. Dangosodd yr arbrawf y gall gronynnau firaol mewn aer sy'n symud gymryd hyd at 41 awr i setlo ar yr wyneb, sy'n golygu bod y tebygolrwydd o'r feirws yn setlo ar giât cyn cael ei ladd yn fach iawn.
Mae'n bwysig cofio bod y rhan fwyaf o achosion byd-eang yn cael eu hachosi gan ddrosglwyddiad person i berson, a dyna pam fod mesurau pellhau cymdeithasol y llywodraeth mewn lle.
Gall mwgwd wyneb amddiffyn rhag coronafeirws
Mae gweithwyr gofal iechyd yn defnyddio mwgwd wyneb proffesiynol, sy'n ffitio'n dynn o amgylch y wyneb i'w hamddiffyn rhag haint.
Ar y llaw arall, mae'r rhan fwyaf o fygydau brethyn tafladwy yn annhebygol o rwystro'r gronynnau firaol bach, ond yr hyn y gallan nhw ei wneud yw helpu i atal diferion rhag lledaenu, sef sut mae'r feirws yn teithio.
Felly gall gwisgo mwgwd pan ydych chi allan o'r tŷ weithio law-yn-llaw â mesurau pellhau cymdeithasol i helpu i leihau'r lledaeniad.
[Nid yw Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai pawb wisgo masgiau wyneb, ond maen nhw'n credu y dylai "fod yn fater o ddewis personol".]
Casgliadau ar sail tystiolaeth
Rydyn ni'n cael ein llethu â gwybodaeth trwy'r dydd ac rydyn ni'n dibynnu ar ein greddf i benderfynu a yw rhywbeth yn wir neu'n anwir.
Yr anhawster yw y gall rhai pethau swnio mor wir, ac mae hynny'n ein hannog i beidio â chymhwyso ein sgiliau meddwl beirniadol.
Ein cyfrifoldeb ni felly yw dadansoddi'r straeon hyn a chwestiynu pa mor ddefnyddiol ydyn nhw i'n sefyllfa ein hunain, cyn dod at gasgliadau.