Rhannu straeon ffug yn gur pen i grwpiau ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Cyfryngau cymdeithasol

Mae gweinyddwyr tudalennau cymunedol ar Facebook yn delio â'r her o geisio cadarnhau beth sy'n gywir a pha straeon sy'n ffug wrth geisio rhannu gwybodaeth ddefnyddiol yn ymwneud â'r argyfwng coronafeirws.

Ymhlith y straeon ffug sydd wedi codi yn yr wythnosau diwethaf mae honiadau fod hofrenyddion yn chwistrellu "diheintydd i'r awyr" a bod yfed gwydr o ddŵr yn "golchi'r coronafeirws i'ch stumog".

Ond mae ceisio gwirio honiadau ffug gan leiafrif y defnyddwyr yn creu cur pen i'r gwirfoddolwyr sy'n cynnal y tudalennau, ac sy'n aml â swyddi llawn amser.

Dywedodd Facebook eu bod wedi cymryd nifer o gamau i fynd i'r afael â straeon ffug a rhannu canllawiau i gefnogi grwpiau cymunedol.

"Mae wedi bod yn anodd," meddai Stephanie Morgan, un o'r chwe gweinyddwr sy'n rhedeg y dudalen 'It only happens in Swansea' ar Facebook, sydd â dros 30,000 o aelodau.

"Mae yna lawer o wybodaeth ffug o gwmpas yn y grŵp, ac mae'n rhaid i mi ei gymeradwyo cyn iddo gael ei gyhoeddi.

"Rydyn ni'n trio gwneud ein gwaith cartref, rwy'n trio edrych ar Google i weld os ydy pethau'n wir ac yn dod o ffynhonnell ddilys, fel y llywodraeth, y GIG neu'r cyngor lleol.

"Os nad ydy e, wnâi ddim ei gymeradwyo."

Disgrifiad o’r llun,

Neges feddygol ffug sydd wedi'i rhannu ar draws y byd, ond cafodd ei atal gan grŵp yn Y Rhyl

Fe wnaeth gweinyddwr y grŵp hefyd atal sawl cais i gyhoeddi llun oedd yn honni fod milwyr wedi eu gyrru i Abertawe.

"Petai nhw wedi edrych ar y llun yn iawn, doedd rhifau platiau'r cerbydau milwrol ddim o'r DU ac roedden nhw'n gyrru ar ochr anghywir y ffordd," meddai Ms Morgan.

"Mae yna ambell un sy'n mynd ati i greu stŵr, ond mae pobl yn rhannu pethau oherwydd eu bod nhw'n meddwl eu bod yn ddilys.

"Maen nhw'n gweld rhywun arall yn ei rannu ac yn meddwl, mae'n rhaid bod e'n wir, sy'n naturiol, ond o wneud ymchwil, tric mawr yw'r rhan fwyaf ohono."

'Ceisio helpu'

Mae gweinyddwyr grwpiau eraill yn dweud eu bod wedi gorfod atal "gwybodaeth beryglus" yn ymwneud â thrin coronafeirws gyda dŵr neu stêm.

Roedd pobl hefyd yn ceisio rhannu lluniau o feysydd parcio gorlawn ger atyniadau poblogaidd oedd mewn gwirionedd wedi eu tynnu cyn cyflwyno'r mesurau ymbellhau cymdeithasol presennol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Louise Waddington yn annog pobl i ystyried yn ddwys cyn rhannu negeseuon all achosi pryder i eraill

Yn ôl Dr Louise Waddington, seicolegydd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae rhannu rhybuddion ynghylch peryglon posib fel rhan o grŵp yn rhan annatod o'r cyflwr dynol.

"Rydyn ni gyd â diddordeb mewn peryglon," meddai.

"Mae'n ddull o oroesi - rydyn ni'n cymryd sylw mawr o unrhyw beth sy'n beryglus ac i fod yn eithriadol ymwybodol ohono.

"Rwy'n meddwl fod pobl yn ceisio helpu, ond dydy e ddim bob tro'n helpu.

"Rwyf hefyd yn meddwl bod pawb sy'n cyhoeddi'r negeseuon rhyfedd yma yn ceisio gosod eu hunain yng nghanol y grŵp cymunedol mewn rhyw ffordd."

Cyfyngu amser ar-lein

Ychwanegodd Dr Waddington mai un rheswm posib sy'n arwain pobl i gredu straeon ffug yw'r ffaith fod cymaint o bethau anghredadwy eisoes wedi digwydd mewn ymateb i'r pandemig, gan gynnwys cau ysgolion.

Mae hi'n awgrymu treulio llai o amser ar-lein yn chwilio am wybodaeth am Covid-19 er mwyn osgoi llyncu newyddion ffug.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y neges yma ei hatal rhag ymddangos ar dudalen It Only Happens In Swansea

"Y mwya' rydyn ni'n darllen y pethau hyn, y mwya' pryderus rydyn yn teimlo," meddai.

"Yn ddelfrydol, rhaid canolbwyntio ar ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy yn unig - ac yna edrych arnyn nhw ddim ond cwpl o weithiau bob dydd.

"Mae'n bwysig i ni gyd ystyried beth rydyn ni'n ei ddarllen ac ydy e wir werth ei rannu.

"Rhaid ystyried, allan ni fod yn gwneud rhywun yn fwy pryderus, yn hytrach na dim ond rhannu gwybodaeth ddefnyddiol?"

Camwybodaeth

Yn ôl Facebook mae bron i ddwy filiwn o bobl wedi ymuno â thros 2,000 o grwpiau cymunedol Covid-19.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw dimau o weithwyr sy'n canfod a chywiro "camwybodaeth" ar y cyfryngau cymdeithasol.

Maen nhw hefyd yn gofyn i'r cyhoedd roi gwybod i'r wefan berthnasol petai nhw'n dod ar draws gwybodaeth ffug.

"Rydym yn argymell i bobl ddefnyddio ffynonellau dibynadwy, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth chwilio am wybodaeth," meddai llefarydd.