TikTok, wyt ti'n neud fideos eto? Yr ap sy'n denu sylw
- Cyhoeddwyd
Mae poblogrwydd yr ap fideo TikTok wedi cynyddu'n fawr ers i bobl dreulio mwy o amser yn eu cartrefi ers dechrau argyfwng coronafeirws.
Erbyn hyn, mae un o bob pump person sy'n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol ym Mhrydain yn defnyddio'r ap, gyda'r nifer o bobl a lawrlwythodd yr ap wedi cynyddu 34% yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau cymdeithasol.
Mae'r ap yn galluogi defnyddwyr i bostio fideos o 15 i 60 eiliad ac yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr iechyd mewn dillad PPE i seren Love Island Dr Alex George yn rhannu cyngor iechyd wrth geisio delio â'r argyfwng.
Ond yn ôl un 'dylanwadwr' (influencer) ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'r ap yn chwarae rôl bwysicach oherwydd yr amgylchiadau.
'Siawns i fod yn sili'
"Mae'r ap wir wedi helpu fi yn ystod y lockdown, achos rwy'n hunan-ynysu ar ben fy hun," meddai Jess Davies o Aberystwyth.
"Pan nes i benderfynu lawrlwytho TikTok o'n i'n meddwl falle byse fi ddim yn defnyddio fe, ond fi arno fe bob dydd nawr ac mae fe jyst 'di helpu hefo iechyd meddwl fi.
"Mae e'n rhoi siawns i fi fod bach yn sili ar-lein, a jyst anghofio am beth sy'n digwydd yn y byd.
"Ar Instagram, dwi'n teimlo pwysau i edrych rhyw ffordd a bod yn berffaith, ond ar TikTok dwi'n 'neud fideos weithiau heb golur, heb neud gwallt fi a jyst yn gwisgo slacs fi.
"Mae'r pwysau mwy amdano personoliaeth chi ac os allwch chi wneud i bobl chwerthin."
Mae Ellis Lloyd Jones, o'r Rhondda, hefyd wedi dechrau defnyddio'r ap yn amlach ers dechrau'r cyfyngiadau cymdeithasol.
"Mae'r lockdown wedi effeithio ar faint fi'n postio," meddai. "Ar ddechrau mis Ebrill roedd gen i 4,000 o ddilynwyr, ond nawr… mae gen i dros 10,000.
"Fi'n hoffi defnyddio TikTok achos mae fe jyst yn bach o hwyl, mae'n neis creu fideos a chwrdd â phobl â'r un diddordebau â chi."
Algorythmau sensitif
Mae'r ap yn hynod boblogaidd ymhlith pobl ifanc. O ganlyniad, mae yna reolau ar yr ap er mwyn sicrhau bod modd defnyddio TikTok yn ddiogel.
Yn ôl Megan Fflur o Gaerdydd, dylanwadwr arall ar y cyfryngau cymdeithasol, mae algorythmau TikTok yn sensitif iawn.
"Fi 'di clywed os chi jyst yn gwisgo top normal gyda'r breichiau mas, os mae fe'n pigo lan bo chi gyda gormod o groen ar show, gallen nhw rhoi hwnna lawr, hyd yn oed os chi jyst yn gwisgo rhywbeth totally normal," meddai.
Mae rhai defnyddwyr yn meddwl bod y rheolau yma'n medru bod yn rhwystredig.
Mae Jess Davies, er enghraifft, yn aml yn darganfod ei bod wedi torri rheolau'r ap. "So chi'n gallu gwisgo dillad byr," meddai, "so mae hwnna'n gallu bod yn bach yn rhwystredig achos maen nhw'n tynnu pethau lawr trwy'r amser a chi ddim yn gwybod be chi'n 'neud yn anghywir."
Dywedodd llefarydd ar ran TikTok: "Mae TikTok yn blatfform ar gyfer cynnwys positif a chreadigol.
"Mae cadw ein defnyddwyr yn ddiogel yn flaenoriaeth i ni. Mae ein Canllawiau Cymunedol yn gwneud yn glir beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu ar ein platfform, a bydd cynnwys sy'n torri'r canllawiau yn cael ei ddileu."
Ond er gwaetha'r rhwystrau mae rhai yn teimlo nad oes arwydd y bydd poblogrwydd yr ap yn pylu.
O ganlyniad mae nifer o asiantaethau ac elusennau ledled y byd yn awyddus i fanteisio ar apêl TikTok.
Mae cyfrif Sefydliad Iechyd y Byd wedi denu dros 1.8m o ddilynwyr ac mae Llywodraeth y DU hefyd wedi bod yn defnyddio'r platfform i bostio fideos yn annog pobl i aros adref er mwyn atal Covid-19 rhag lledaenu.
Cymuned Cymraeg TikTok
Mae yna gymuned arall sydd hefyd yn amlwg ar yr ap erbyn hyn.
Dywedodd Ellis: "Niche fi yw bod yn Gymro… achos fi 'di dechrau postio chain o fideos sef 'celebrities that you didn't know that were Welsh', ac ar ôl i fi bostio nhw a phostio fideos eraill lle oedd y pwnc yn Gymreig, nes i sylweddoli bod llwyth o bobl yn hoffi hwnna a 'di dechre dilyn fi ar ôl hwnna.
"Mae yna definitely cymuned fawr Gymraeg ar TikTok," meddai Megan.
"Fi'n credu falle fi oedd yr un cyntaf i wneud cwpl o fideos Cymraeg… ond erbyn hyn mae yna lot o bobl wedi clocio bod fideos Cymreig yn 'neud yn dda, ac mae yna loads o nhw nawr."
Ac yn ôl Jess, mae defnydd y platfform yn gyfle i gynnwys Cymraeg gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
"Mae e jyst yn rhoi siawns i ni ddathlu'r iaith a'r diwylliant, a rhoi llwyfan i Gymru, achos mae yna filoedd ar filoedd o bobl ar TikTok dros y byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018