Cyhuddo dyn lleol wedi difrod i geir staff ysbyty
- Cyhoeddwyd

Difrod i un o'r cerbydau a ddaeth i'r fei fore Sadwrn
Mae dyn lleol wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â difrod i gerbydau staff ysbyty yn Aberpennar dros y penwythnos.
Cafodd ffenestri cerbydau tri aelod o staff ar shifft nos yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar eu difrodi ym maes parcio'r ysbyty ddydd Sadwrn 2 Mai.
Dywed Heddlu De Cymru fod y dyn sydd wedi ei gyhuddo yn ei 50au ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ym mis Gorffennaf.
Fe gynyddodd y llu nifer y patrolau ar safle'r ysbyty mewn ymateb i'r achos, a ddigwyddodd rhwng 19:00 nos Wener 1 Mai a 07:30 y bore canlynol.
Mynegodd perchennog un o'r cerbydau dristwch fod peth mor "ofnadwy" wedi digwydd pan "rydym oll yn gweithio mor galed ar hyn o bryd" yn gofalu am gleifion yn ystod y pandemig Covid-19.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2020