Pryder yn Sir Benfro ynghylch effaith economaidd Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau bod yr argyfwng coronafeirws wedi golygu gwariant ychwanegol o £11m i'r awdurdod.
Mae'r awdurdod yn amcangyfrif y bydd y cyngor wedi gwario £8.5m o arian refeniw ychwanegol a £2.5m o arian cyfalaf ychwanegol erbyn diwedd mis Mehefin.
Yn ôl y cynghorydd Cris Tomos, sy'n aelod o'r cabinet, mae'r sir wedi llwyddo i hawlio oddeutu £64,000 yn ôl hyd yn hyn, ond y gobaith yw y "bydd rhan helaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru".
Mae o un o gynghorwyr Ceidwadol Sir Benfro, Sam Kurtz, wedi galw ar yr awdurdod i gynnal cyfarfodydd digidol er mwyn sicrhau bod yna graffu o ran penderfyniadau.
"Mae'n bwysig ofnadwy oherwydd y dewisiadau mae'r cyngor yn gwneud ar hyn o bryd," meddai'r Cynghorydd Kurtz.
Yn gyffredinol, meddai, mae'r cyngor wedi perfformio'n dda yn ystod yr argyfwng ond mae'n bryd nawr bod "llais bob cynghorydd yn cael ei glywed".
Mae'n dweud bod rhai busnesau wedi cwyno am arafwch wrth dalu grantiau sydd ar gael yn ystod yr argyfwng.
Deallir y bydd aelodau'r cabinet yn cynnal cyfarfod dros y we ar 18 Mai, ond does yna ddim cynlluniau ar hyn o bryd i gynnal cyfarfod o'r cyngor llawn.
Ar draws y sir, mae yna bryder am effaith Covid-19 ar y diwydiant ymwelwyr.
Yn ôl Twristiaeth Sir Benfro, corff sy'n cynrychioli'r diwydiant, mae'r diwydiant ymwelwyr yn cyfrannu £585m i'r economi leol.
Un busnes sydd wedi cael ei daro gan y feirws ydy Gwesty Gellifawr yng Nghwm Gwaun, ble mae 40 o briodasau wedi gorfod cael eu gohirio.
"Mae wedi bod yn ofnadwy," meddai Nia Booth, is-reolwr y gwesty.
"Ni wedi gorfod symud 40 o briodasau i'r flwyddyn nesaf.
"S'dim busnes yn dod mewn. Mae'r effaith wedi bod yn enfawr. Lan i nawr, mae e wedi costio £250,000."
Mae Gellifawr wedi gwneud cais i Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru am gymorth.
Mae nifer o fusnesau wedi cael cyfnod o saib rhag gorfod talu trethi.
"Mae'r gwyliau o'r trethi wedi bod yn gadarnhaol a ni'n gobeithio cael help gan Business Wales," meddai Ms Booth.
"Yn mynd ymlaen, fe fydd angen ymestyn y gwyliau [ar drethi] i'r flwyddyn nesaf er mwyn rhoi cyfle i bobl ddal lan.
"Mae'n effeithio pawb. Fe fyddai'n syniad i dorri treth ar werth i letygarwch er mwyn gwneud yr arian nôl.
"Mae'r effaith yn mynd i fod yn enfawr. Mae'n drist, mwy nac unrhyw beth - s'neb yn gallu dod i weld ni."
Yn ôl Twristiaeth Sir Benfro, fe fydd effaith yr argyfwng yn cael ei deimlo am "beth amser" a does yna "ddim sicrwydd y bydd yr arian sydd ar gael gan lywodraethau Cymru a Phrydain yn ddigon i gynnal busnesau".
Dywedodd y Cynghorydd Cris Tomos y bydd angen cymorth ar y diwydiant wrth i gyfyngiadau gael eu llacio yn raddol.
'Marchnata yn syth'
"Fe fyddwn ni am farchnata yn syth i ddweud sut bydd y diwydiant yn ailagor," meddai.
"Bydd rhaid gweld sut mae pobl yn ymateb, ond sicr fod busnesau fel tai bwyta yn cyflwyno cyfyngiadau fel bod pobl yn teimlo yn gysurus.
"Bydden ni yn gobeithio y bydd rhyw fath o weithgareddau yn hwyrach yn y flwyddyn.
"Ni wedi trafod gyda threfnwyr [triathlon] Ironman a falle byddwn ni yn edrych ar ddigwyddiad llai o faint ond cadw'r holl beth yn fyw."
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall y galwadau am estyniad yn y gefnogaeth i'r sector ac rydym yn ystyried amrywiaeth eang o opsiynau er mwyn cefnogi'r diwydiant yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020