Ymestyn y cyfyngiadau ond llacio rhai rheolau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ymarfer corffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O ddydd Llun bydd pobl yn cael caniatâd i ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd

Bydd pobl yn cael ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd, a bydd rhai llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu a garddio yn ailagor, meddai Prif Weinidog Cymru.

Ond rhybuddiodd Mark Drakeford ei bod yn "rhy gynnar" i wneud unrhyw newidiadau pellach ar y cyfyngiadau, saith wythnos wedi iddyn nhw gael eu rhoi yn eu lle.

Bydd gweddill y cyfyngiadau yn parhau mewn grym am o leiaf tair wythnos arall.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai cynnydd bychan yng nghyfradd trosglwyddo Covid-19 yn golygu miloedd yn fwy mewn ysbytai a "nifer fawr" o farwolaethau ychwanegol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ddeuddydd cyn i Boris Johnson gyhoeddi newidiadau posib i'r rheolau yn Lloegr.

Disgrifiad,

Dywedodd Mark Drakeford bod "angen symud ar y cyd â gwledydd eraill y DU"

Er bod adroddiadau o densiynau rhwng y gwahanol lywodraethau, dywedodd Mr Drakeford ei fod eisiau "symud ar y cyd â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig".

Bydd yr arolwg nesaf o'r cyfyngiadau yng Nghymru yn cael ei gynnal ymhen tair wythnos.

Mae llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi ymestyn y cyfyngiadau yn eu gwledydd nhw.

"Rhaid i ni beidio colli'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud," meddai Mr Drakeford yn ei gynhadledd ddyddiol.

"Mae'n rhaid i ni i gyd weithio o gartref ble fo hynny'n bosib. Rhaid i ni deithio pan fo hynny'n hollol angenrheidiol yn unig.

"Mae'n rhaid i ni barhau i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a golchi ein dwylo yn gyson."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o ailagor canolfannau ailgylchu yn dechrau ddydd Llun

O ddydd Llun ymlaen bydd pobl yn cael caniatâd i ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd, ond ni ddylen nhw deithio "pellter sylweddol" o'u cartrefi.

Bydd canolfannau garddio yn cael ailagor os ydyn nhw'n gallu sicrhau bod y rheolau ar ymbellhau yn cael eu dilyn.

Fe fydd cynghorau hefyd yn dechrau ar y gwaith o ailagor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

Ychwanegodd Mr Drakeford y dylai'r 120,000 o bobl sydd yn y categori bregus barhau i ddilyn y cyngor i aros adref.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Mark Drakeford ei bod yn "rhy gynnar" i wneud unrhyw newidiadau pellach ar y cyfyngiadau

Rhybuddiodd Mr Drakeford y byddai unrhyw un sy'n teithio i draethau neu barciau cenedlaethol yn cael eu stopio gan yr heddlu.

"Nid dyna'r peth iawn i'w wneud - mae'n peryglu'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd," meddai.

'Dim gosod rhwystrau'

Ychwanegodd Mr Drakefordd ei fod yn credu y bydd cyhoeddiad Mr Johnson ar gyfer Lloegr nos Sul yn "eithaf tebyg" i'r hyn sydd wedi'i gyhoeddi yng Nghymru.

Dywedodd nad ymgais i "osod unrhyw rwystrau" ar Downing Street oedd cyhoeddi'r newidiadau yng Nghymru ddeuddydd ynghynt.

Fe wnaeth y ddau brif weinidog siarad gyda'i gilydd ddydd Iau, ond mae Mr Drakeford wedi galw am gyfarfodydd mwy cyson wrth i'r argyfwng barhau.

Dywedodd Downing Street bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynllun tebyg ar draws y DU "ble fo hynny'n bosib", ond eu bod yn cydnabod y gallai amgylchiadau godi ble fo rhai gwahaniaethau.

Galw am beidio tanseilio Cymru

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price groesawu'r cyhoeddiad, gan alw ar Mr Johnson i beidio â llacio'r rheolau'n ormodol yn Lloegr, gan "danseilio" y strategaeth yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies ei bod yn bwysig i lywodraethau geisio cadw cysondeb er mwyn "osgoi dryswch".

Dywedodd arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd, Mark Reckless, nad oedd ei blaid yn croesawu'r estyniad, ac y byddai'r feirws yn aros gyda ni "ymhell ar ôl Gorffennaf gan fod y llywodraeth yn ymestyn hyn allan... er bod gan y GIG y capasiti i ymdopi".