Parciau bywyd gwyllt yn wynebu 'argyfwng economaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae parciau bywyd gwyllt a sŵau Cymru wedi rhybuddio eu bod yn wynebu argyfwng economaidd oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.
Mae atyniadau o'r fath yn denu miloedd o ymwelwyr dros y cyfnod yma o'r flwyddyn fel arfer, ond dyw hynny ddim yn bosib oherwydd y cyfyngiadau.
Mae Cymru Fyw eisoes wedi clywed gan berchennog Sŵ Môr Môn, sydd wedi lansio cronfa apêl geisio codi arian er mwyn sicrhau y bydd modd i'r sefydliad barhau wedi'r argyfwng.
Dywedodd Frankie Hobro fod y sefydliad yn colli £20,000 y mis.
'Llawer mwy difrifol'
Sefydliad arall sy'n cael trafferthion ydy Folly Farm yn Sir Benfro, gyda'r cyfarwyddwr Tim Morphew yn dweud eu bod yn colli £60,000 y mis ac na fyddan nhw'n gallu parhau heb gymorth.
Ychwanegodd fod y pandemig wedi eu gorfoi i newid y ffordd maen nhw'n gofalu am rai anifeiliaid, yn enwedig y rhai sy'n perthyn yn agos i fodau dynol.
"Fel arfer os oes rhywun yn dod i'r gwaith gydag annwyd rydyn ni'n eu cadw i ffwrdd o'r mwncïod, ond nawr mae'n beryg bywyd felly'n llawer mwy difrifol," meddai.
Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn Sir Gâr, Emma Hill eu bod hwythau ar eu colled o tua £20,000 y mis oherwydd y pandemig.
"Er mwyn sicrhau bod yr adar yn ddiogel rydyn ni wedi'n gwahanu i ddau dîm fel mai dim ond hanner y staff sydd mewn ar unrhyw adeg," meddai.
"Felly os oes unrhyw un ohonom yn mynd yn sâl bydd hanner arall y staff yn gallu parhau i edrych ar ôl yr adar.
"Fel arfer mae'r adar yn aros gyda ni am 10 diwrnod ac yna'n symud i'w cartrefi newydd - mae'n well iddyn nhw gael eu magu gyda'r bobl sydd am edrych ar eu holau am weddill eu bywydau - ond gyda'r cyfyngiadau ar deithio dydy pobl ddim yn gallu teithio yma i'w hôl nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020