Cynnal Eisteddfod AmGen yn ystod wythnos gyntaf Awst

  • Cyhoeddwyd
Logo cynllun Eisteddfod AmGenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhagor o fanylion am weithgareddau'r prosiect AmGen yn cael eu cyhoeddi maes o law

Mae prosiect newydd wedi cael ei lansio er mwyn lliniaru'r siom o orfod gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2021 oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Bydd cynllun AmGen, medd trefnwyr, yn "rhoi blas o'r Brifwyl i bawb dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf".

Bydd rhagor o fanylion yn fuan ynghylch "Eisteddfod AmGen" sy'n cael ei chynnal "yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, pan roedd pawb wedi gobeithio bod ar y Maes yn Nhregaron".

Ond mae trefnwyr eisoes wedi cadarnhau y bydd yna "o leiaf un gweithgaredd y dydd" o ddydd Llun 18 Mai ymlaen "gan ddefnyddio nifer fawr o blatfformau, a chan weithio'n agos gyda'r wasg a'r cyfryngau ar draws Cymru".

'O'r un anian â'r Eisteddfod'

"Roedden ni'n benderfynol na fyddai'n rhaid i bawb fynd heb ychydig o 'Steddfod am eleni," meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses.

"Rydym yn falch o gael gweithio gyda nifer o bartneriaid er mwyn gwireddu rhywbeth a fydd o'r un anian â'r Eisteddfod, ond yn cael ei gyflwyno mewn ffordd wahanol iawn.

"Dros yr wythnosau diwethaf, ry'n ni wedi bod yn mynd drwy archif yr Eisteddfod, yn trafod gyda nifer fawr o bartneriaid ac yn meddwl am syniadau gwreiddiol a newydd a fydd, gobeithio, yn apelio at ein cynulleidfa.

"Ry'n ni, fel pawb arall wedi gorfod meddwl am ein gwaith mewn ffordd cwbl wahanol, ac mae wedi bod yn brofiad diddorol rhoi rhaglen at ei gilydd sy'n cynnig rhywbeth i bawb, gobeithio."

Bydd amserlen wythnosol AmGen yn cael ei chyhoeddi ar-lein, dolen allanol bob dydd Gwener o 15 Mai ymlaen.

Bydd rhai o'r gweithgareddau'n ymddangos ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod ac eraill ar blatfformau fel apiau Zoom ac AM.

"Ein gobaith yw cyhoeddi nifer fawr ohonyn nhw ar wefan yr Eisteddfod a'n sianel You Tube wedyn, fel bod gennym gofnod o'r gweithgareddau, a bod pobl yn gallu dychwelyd atyn nhw dro ar ôl tro dros yr wythnosau nesaf," medd Ms Moses.

Bydd y trefnwyr yn gweithio gyda'r wasg a'r cyfryngau ar draws Cymru, a rhaglenni teledu S4C fel Heno a Prynhawn Da i sicrhau fod gwahanol elfennau'r prosiect yn cyrraedd pobl nad sy'n defnyddio technoleg.

Dywedodd Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: "Mae'r Eisteddfod, fel nifer o ddigwyddiadau arall, wedi gorfod bod yn arloesol ar gyfer 2020.

"Mae'r digwyddiad ar-lein yn darparu cyfleoedd i ni gyd gymryd rhan a gwylio cystadlaethau a gweithgareddau wythnosol."

'Prosiect cenedlaethol'

Bydd rhai gweithgareddau yn benodol ar gyfer cefnogwyr y Brifwyl yng Ngheredigion, ac yn Llŷn ac Eifionydd, sef cartref Eisteddfod Genedlaethol 2022.

"Byddwn yn trafod syniadau amrywiol gyda'r pwyllgorau lleol er mwyn sicrhau bod cynnwys AmGen yn apelgar i'r ardaloedd hyn, ac ein bod yn ail-gydio yn ein gwaith ymgysylltu cymunedol ar lawr gwlad, mewn ffordd cwbl wahanol," meddai Ms Moses.

"Ond fel yr Eisteddfod ei hun, mae AmGen yn brosiect cenedlaethol, ac felly ry'n ni am i bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt allu ymuno gyda ni ar gyfer ein gweithgareddau amrywiol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Ar ddiwedd y prosiect, y gobaith yw ein bod ni wedi llwyddo i ysbrydoli ein cynulleidfa ac ein bod ni wedi llwyddo i greu cynnyrch newydd ac amgen mewn ffordd cwbl wahanol i'r arfer."