Beth sydd yn eich cwpwrdd?

  • Cyhoeddwyd
ffacbys

Ydi penderfynu beth i'w goginio yn achosi ychydig o gur pen ar hyn o bryd?

Peidiwch â phoeni, mae gennym ni ysbrydoliaeth i chi gan bobl sydd wedi bod yn chwilota yng nghefn y cwpwrdd am gynhwysion, ac wedi llwyddo i wneud prydau bwyd blasus iawn.

Dyma bump fideo sy'n egluro sut maen nhw wedi creu pryd allan o'r hyn oedd ganddyn nhw:

Paella Llyr Serw

Disgrifiad,

"Pryd blasus, maethlon, ac yn ddigon hawdd i 'neud."

Mae Llyr yn gogydd sy'n byw yn Llanrwst. Penderfynodd ddod â 'chydig o flas Sbaenaidd i'r bwrdd bwyd, a defnyddio pethau sydd wedi bod yng nghefn y rhewgell ers cryn amser...

Cynhwysion:

  • Olew

  • Cyw iâr

  • Nionyn

  • Garlleg

  • Pupur

  • Paprika

  • Chorizo

  • Reis paella

  • Gwin gwyn

  • Stoc (esgyrn y cyw iâr gyda 2 nionyn, moron, cennin, deilen bae, clof, 2 ewin garlleg, litr o ddŵr)

  • Saffrwm sych

  • Tomatos (hanner tun)

  • Ffa gwyrdd

  • Pys

  • Anchovies

  • Lemwn a menyn i'w weini

Wyau Twrcaidd Llio Angharad

Disgrifiad,

"Syml iawn i'w 'neud."

Dyma un o hoff ryseitiau Llio, sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae hi'n ceisio defnyddio popeth sydd ganddi yn yr oergell a'r cypyrddau i osgoi gorfod mynd allan o'r tŷ mor aml i siopa am fwy o fwyd.

Cynhwysion:

  • Olew

  • Halen

  • Tsili

  • Iogwrt

  • Garlleg

  • Finegr

  • Wyau

  • Menyn

  • Bara

  • Persli i'w weini

Bisgedi Blodau Gwyllt y Gwanwyn Marian Haf

Disgrifiad,

"Ni'n mynd i gael pwdin cyn swper heno!"

Yng Ngheredigion mae'r brintwraig Marian Haf yn byw. Mae hi wedi defnyddio cynhwysion o'r ardal o'i chwmpas, ynghyd â chynnwys ei chwpwrdd, ar gyfer ei bisgedi arbennig hi... ac wedi cael help ei phlant i'w coginio

Cynhwysion:

  • Menyn

  • Blawd

  • Wyau

  • Lemwn

  • Siwgr

  • Blodau gwyllt

Stiw ffacbys (lentils) Seiriol Dawes-Hughes

Disgrifiad,

"Allwch chi byth gael gormod o garlleg!"

Mae gan Seiriol o Gaernarfon storfa o fwydydd tun, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfnod yma.

Cynhwysion:

  • Garlleg

  • Tomatos

  • Olew olewydd

  • Ffacbys/corbys (lentils)

  • Sbigoglys (spinach)

  • Sudd hanner lemwn

  • Mwstard

  • Crème fraîche

  • Caws (fel caws gafr neu feta)

  • Halen a phupur

Bîns ar dost cartref Sioned Pearson

Disgrifiad,

"Mae o'n faethlon, a wnaeth pawb ei fwynhau o!"

Sicrhau bwyd maethlon ar gyfer ei theulu ydi her Sioned o Bwllheli yn ystod y pandemig. Mae hi wedi dod o hyd i rysáit i wneud fersiwn cartref o hen ffefryn.

Cynhwysion:

  • Purée tomato

  • Sialóts (shallots)

  • Garlleg

  • Perlysiau cymysg

  • Smoked paprika

  • Tun o ffa cannellini

  • Halen a phupur

  • Olew

  • Saws Worcester

  • Passata

  • Mêl

  • Tost gyda digon o fenyn a llond llaw o gaws i'w weini

Cadwch lygad am fwy o fideos Beth Sydd Yn Eich Cwpwrdd ar dudalen Facebook BBC Cymru Fyw i'ch ysbrydoli!

Hefyd o ddiddordeb: