Bwletinau newyddion BBC Cymru ar-alw ar seinyddion clyfar

  • Cyhoeddwyd
Seinydd clyfar Apple Home PodFfynhonnell y llun, Getty Images

O ddydd Mercher, bydd bwletinau BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ar gael ar seinyddion clyfar sy'n arddel Alexa.

Dyma'r tro cyntaf i newyddion o Gymru - yn Gymraeg a Saesneg - fod ar gael ar-alw ar seinyddion clyfar.

Mae modd defnyddio'r gwasanaeth newydd gyda'r gorchmynion canlynol:

  • Bwletin BBC Radio Cymru

  • Play BBC Wales update

  • Play BBC Cymru update

"Rwy'n falch iawn fod bwletinau newyddion o Gymru - yn Gymraeg ac yn Saesneg - bellach ar gael ar alw i ddefnyddwyr seinyddion clyfar," meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.

"Wrth i fwy a mwy o bobl ddefnyddio seinyddion clyfar, mae'n hollbwysig ein bod yn darparu gwybodaeth gyhoeddus gywir i ddefnyddwyr yn ystod y cyfnod hwn.

"Rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau newyddion yn ystod cyfnod y coronafeirws - ac mae'r dull arloesol newydd yma'n ein galluogi i ymateb i'r galw mawr hwn."

Bydd y newyddiadurwr Garry Owen i'w glywed yn darllen rhai o'r bwletinau.

"Mae dechre gwasanaeth newydd yn gyffrous, ac mae cael bod yn rhan o'r dechreuad yna yn fwy cyffrous fyth!" meddai.

"Rwy'n falch iawn o weld hyn yn digwydd ac yn edrych mla'n at y gwasanaeth newyddion Cymraeg cynta' ar seinydd clyfar Alexa."