Aros am aren: Iwan John a dialysis
- Cyhoeddwyd
Mae'r comedïwr Iwan John newydd gychwyn dialysis wedi i'w arenau fethu.
Yma, mae'r perfformiwr, sy'n byw yn Bridell, Sir Benfro gyda'i wraig Non Parry o'r grŵp pop Eden, a'r plant, yn siarad â Cymru Fyw am aros am drawsblaniad ac effaith hynny ar ei fywyd.
Sylweddolais fod 'na broblem gyda f'arenau i pan symudais i Bontyclun i fyw gyda Non yn 1998. Ro'n i'n 28 mlwydd oed a doedd dim symptomau, do'n i ddim yn anhwylus o gwbl. Gwnaeth doctor brawf urine a gweld fod protein ynddo a ffeindiais i mas bod un aren wedi shrivello lan a'r llall yn gweithio ar 60%. Roedd yn sioc.
Ges i brofion ond doedd dim rheswm amlwg am y dirwyiad - galle fe fod yn reflux yn bwrw lan i'r aren ond dydyn ni ddim yn siŵr. Mae'r aren wedi bod yn dirywio dros yr 20 mlynedd diwethaf ac nawr mae lawr i 6%.
Ro'n i wedi blino'n aml ond achos bod y dirywiad mor raddol do'n i ddim yn siŵr os taw blinder henaint oedd e - ond ro'n i'n gwybod bo' fi wedi arafu.
Ro'n i'n cael profion gwaed yn aml ac wrth i'r lefelau creatinine gynyddu i 7% neu 8%, roedd y doctoriaid yn dechrau pryderu bod y drwg 'na yndda'i ac mae'n gallu effeithio ar bethau eraill.
Rhestr trawsblaniad
Ro'n i'n gobeithio cyrraedd top y rhestr trawsblaniad neu chael live donor cyn i bethau waethygu - ond dyw hynny ddim wedi digwydd eto.
Dyna'r gobaith - i gael aren ac wedyn s'dim rhaid i fi gael dialysis.
Mae'r aros am aren yn dibynnu ar bwy sy'n matsho orau. Os bydde rhywun yn matsh da fory, bydden i'n cael trawsblaniad.
Dw i ar y rhestr deceased ers mis Mai diwethaf hefyd, sef aros i gael organ gan rhywun sy' wedi marw, felly mae'n flwyddyn o aros nawr.
Dyw e ddim fel rhestr lle mae top a gwaelod ond mae'n dibynnu ar faint o bwyntiau sy' gyda ti. Os ti'n gwaethygu neu wedi bod ar y rhestr am amser hir, gei di fwy o bwyntiau.
Dw i'n mynd lan y rhestr ond gall rhywun is i lawr y rhestr gael aren cyn fi achos bod nhw'n well matsh. Felly mae'r ffactorau hynny i gyd yn cael eu hystyried. Mae'n rhyfedd a ddim yn hawdd i'w ddeall!
Diffyg arenau
Erbyn hyn mae llai o arenau parod oddi wrth y rhestr donors sy' wedi marw achos mae diogelwch ceir yn well ac mae llai o bobl yn marw mewn damweiniau car. Mae mwy o donors byw nawr ond mae eisiau mwy eto.
Dechreuais i dialysis ym mis Mai, ar fy mhenblwydd i. Peritoneal dialysis yw e - yn gynta' ges i lawdriniaeth i roi peipen mewn i'r stumog i'r peritoneal cavity. Wedyn mae peipen bach yn gadael yr hylif glwcos mewn a mas.
Dw i'n 'neud e ar y peiriant adref am wyth awr bob nos, tra mod i'n cysgu. Mae'n rhoi tua 10 litr o'r hylif glwcos 'ma mewn a mas ohono ti tua pedair gwaith y nos. Dw i'n cysgu trwyddo.
Mae llwyth o offer a hylif wedi cyrraedd y tŷ. Mae'n hilarious fod cymaint o stwff.
Mae'n gallu bod yn boenus achos mae hylif yn mynd i lefydd 'le ti ddim fod cael hylif. Mae'n boen rhyfedd. Mae deferred poen gyda ti yn dy ysgwyddau, fel bod rhywbeth ar y nerfau.
Gofid am waith
Ti'n sylwi faint o strach yw dialysis ond mae'n rhaid i ti ddelio gyda fe. S'dim pwynt meddwl gormod.
Y peth gwaethaf yw'r sefyllfa waith a chael digon o arian. Hwnna yw'r poen mawr achos alla i byth gweithio lot a weithiau ti ddim yn teimlo fel gweithio. Hwnna yw'r gofid mwyaf.
'Dyw pobl ddim yn rhoi gwaith i fi achos allen nhw byth yswirio fi achos y perygl o orfod adael y job achos bod aren ar gael. Mae'n un o'r sefyllfaoedd hynny lle alla i ddim gwneud job hir. Dw i'n teimlo 'mod i'n hala fy mywyd yn aros.
Dw i'n mynd mewn i savings fi a s'dim lot o rheiny gyda fi!
Mae'n rhaid i fi barhau ar dialysis nes i fi gael aren newydd. Gallai fod yn fis, gallai fod yn dri mis, gallai fod yn flwyddyn.
Dw i'n gobeithio'r gorau.