Siom wrth i Ŵyl Green Man ganslo am 2020

  • Cyhoeddwyd
Michael Kiwanuka
Disgrifiad o’r llun,

Y canwr-gyfansoddwr o Lundain, Michael Kiwanuka ennillodd wobr Sound of 2012 y BBC

Fydd Gŵyl Green Man ddim yn cael ei chynnal ym mis Awst eleni, wedi i'r trefnwyr gyhoeddi eu bod wedi penderfynu canslo.

Mewn datganiad maen nhw'n dweud mai diogelwch y cwsmeriaid, yr artistiaid, y criw, a'r masnachwyr yw eu blaenoriaeth.

Roedd Michael Kiwanuka, Caribou, Goldfrapp a Gruff Rhys ymhlith yr artistiaid oedd fod i berfformio yn yr ŵyl ger Crucywel, ym Mannau Brycheiniog ar y 20-23 Awst i tua 25,000 o bobl.

Roedd holl docynnau Green Man wedi'u gwerthu eleni, ac mae'r trefnwyr yn dweud y bydd tocynnau 2020 yn cael eu trosglwyddo i 2021.

Ffynhonnell y llun, Melin Melyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Melin Melyn fod i berfformio ar lwyfan 'Rising' yng Ngwyl Green Man

Mae ffans ac artistiaid wedi mynegi siom am y penderfyniad ar gyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod nad oedd yn gwbl annisgwyl.

Un o'r bandiau oedd fod i chwarae yn yr wyl oedd Melin Melyn.

"Roedd cael ebost gan Green Man i ofyn i Melin Melyn chwarae yn uchafbwynt mawr i ni i gyd, gan mae dyna oedd uchelgais y band - i gael chwarae yno rhyw ddydd." medd Gruff Glyn, canwr y band.

"Mae'r band yn amlwg yn gutted ond yn llwyr gytuno gyda'r penderfyniad."

Ar ôl dechrau perfformio gyda'i gilydd bron a bod union flwyddyn nôl, roedd Melin Melyn yn disgwyl perfformio ar lwyfan 'Rising' ar gyfer bandiau newydd.

Mae'r band yn cael eu disgrifio fel band gwerin seicadelig, ac ond newydd ryddhau eu sengl cyntaf - Mwydryn, dolen allanol. Roedd y pedwar aelod wedi gobeithio y byddai ymddangos ar y llwyfan yn hwb ar ddechrau eu gyrfa gerddorol,

"O edrych ar y bandiau sydd wedi perfformio arni yn y gorffennol - mae nifer wedi mynd mlaen i fod yn fandiau poblogaidd dros ben erbyn hyn, bandiau fel Black Midi," medd Gruff Glyn, "ond mae'n bwysig rhoi popeth mewn perspectif.

"Mae'n gyfnod cythryblus i'r diwydiant adloniant, ond mae 'na bobl dan bwysau ofnadwy, pobl sy'n gweithio mewn 'sbytai, cartrefi yr henoed neu'n gweithio mewn siopau."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Melin Melyn

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Melin Melyn

Mae trefnwyr Green Man wedi gofyn i'w cwsmeriaid gadw eu tocynnau tan 2021,

"Byddem ni'n gwerthfawrogi tasai'n bosibl i chi gadw eich tocynnau ar gyfer y flwyddyn nesaf, oherwydd mae'n adeg hynod heriol ar gyfer gŵyl fach fel Green Man," medd llefarydd, "Serch hynny, os hoffech chi gael ad-daliad, bydd modd cael un drwy Ticketline."

Dyfodol adloniant

Dim ond un o'r diweddaraf o wyliau cerddorol i gyhoeddi na fyddan nhw'n digwydd eleni yw Green Man. Pryder artistiaid fel Melin Melyn yw y bydd hi'n anoddach nag erioed i'r diwydiant ail-sefydlu wedi i'r argyfwng coronafeirws ddod i ben.

"Dwi wedi digalonni yn fawr o weld venues annibynnol yng Nghaerdydd yn cael ei cau lawr cyn i'r pandemig gyrraedd. Mae 'na dwll mawr wedi i lefydd fel Gwdihw, Buffalo, Ten Feet Tall a Dempseys gau," medd Gruff Glyn.

"Dwi felly yn poeni yn fawr am yr effaith fydd y pandemig yn ei gael ar y gwyliau a venues a theatrau annibynnol sy'n gweithio mor galed i gefnogi artistiaid."

Ffynhonnell y llun, Jenna Foxton

Wrth ystyried effaith y pandemig ar artistiaid, mae trefnwyr Green Man yn dweud eu bod wedi sefydlu ymddiriedolaeth i helpu artistiaid mewn argyfwng drwy'r cyfnod hwn.

"Dy'n ni ddim erioed wedi stopio gŵyl o'r blaen, ac mae'n teimlo'n rhyfedd ac yn achos tristwch i wneud hynny nawr," medd eu datganiad. "Mae'r 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel...

"Roedd cymaint o hud ganddon ni i ddatgelu i chi eleni, ond bydd yn aros tan y byddwn ni'n cwrdd ym mynyddoedd Cymru eto.

"Ry'n ni'n siarad ag artistiaid am symud i ddyddiadau yn 2021 a byddwn ni'n datgelu sypreisys eraill yn y misoedd sydd i ddod. Dy'n ni ddim yn gallu aros i'ch gweld chi eto y flwyddyn nesaf."

Gobaith Gruff Glyn yw y bydd yr aduniad cerddorol pan fydd yr argyfwng drosodd yn un melys tu hwnt,

"Dwi'n meddwl fydd na bentwr o gerddoriaeth newydd ar gael ar ôl hyn i gyd!" meddai,

"A bydd y gigs, pan ddewn nhw nôl, yn brofiadau emosiynol dros ben, i'r bandiau ac i'r punters - heb sôn am y bobl sy'n rhedeg y venues sydd ar hyn o bryd yn dawel ac yn wag - a'r rhai sy'n dwlu ar gerddoriaeth i gael ail-uno eto."