Neges Heddwch yr Urdd: Covid-19 yn 'ddeffroad i'r byd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Neges Ewyllys Dda Urdd Gobaith Cymru 2020

Mae angen sicrhau nad ydy'r gwersi a ddaw yn sgil argyfwng coronafeirws yn cael eu hanghofio - dyna ydy neges pobl ifanc Cymru.

Fel rhan o Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni, mae'r mudiad ieuenctid yn galw ar arweinwyr y byd i fynd i'r afael â "beiau mawr byd modern".

Daw wrth i'r mudiad lansio ymgyrch fyd-eang sy'n "ddeffroad i'r byd" yn erbyn dychwelyd i rai o arferion "hunanol, dinistriol y gorffennol".

Ar ran 55,000 o aelodau, mae prif weithredwr yr Urdd wedi ysgrifennu at holl arweinwyr gwledydd y G20 i rannu'r neges.

'Symbol o undod pwysig'

Yn ôl yr Urdd mae'r ymateb i bandemig Covid-19 wedi creu "ymdeimlad newydd o frys" i ddelio gyda phroblemau fel tlodi, anghydraddoldeb, byw'n wastraffus, teithio di-angen a newid hinsawdd.

Mae neges eleni yn canolbwyntio ar "ba mor drist pe byddai'r ymateb cadarnhaol a llesol i'r materion hyn yn cael ei ddadwneud wrth i'r firws gilio".

Caitlin Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd neges yr Urdd ei hanfon at holl arweinwyr y G20 gan Caitlin Kelly

Un sydd wedi bod yn gweithio ar y neges eleni ydy Caitlin Kelly, newyddiadurwr ac ymgyrchydd o Lundain.

Yn gyn-aelod o Ysgol Gymraeg Llundain, mae ei gwaith bellach yn ymwneud â hawliau menywod, yr amgylchedd a hyrwyddo lleisiau pobl ifanc.

"Mae'n anodd i bobl ifanc ar hyn o bryd, maent yn dioddef yn fwy o dlodi a chaledi achos yr ynysu.

"Mae'r ysgolion ar gau ac mae'r plant yn colli mas ar ran pwysig o'u haddysg a'u datblygiad cymdeithasol.

"Mae'r neges felly yn symbol o undod pwysig ar y foment."

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis bod yr argyfwng wedi bod yn "her enfawr a phoenus" ond bod yr "ymateb byd-eang i'r bygythiad wedi bod yn drawiadol".

Ychwanegodd: "Er bod y sefyllfa wedi gwahanu pobl yn gorfforol, mae hefyd wedi dod â phobl yn agosach.

"Mewn sawl ffordd, dangosodd yr argyfwng y gorau ynom ni, ein hymrwymiad i'n cymunedau, ein gwerthoedd cyffredin a'n dynoliaeth..."

Mae Ms Lewis wedi ysgrifennu at arweinwyr yn cynnwys Boris Johnson, Donald Trump a Vladimir Putin, a dywedodd bod "ein pobl ifanc yn benderfynol na fydd arweinwyr gwleidyddol yn gollwng yr ymrwymiadau hynny wrth i'r firws gilio".

Sian Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymateb i'r argyfwng presennol wedi bod yn drawiadol, meddai Sian Lewis

Mae'r Urdd wedi bod yn cyhoeddi neges ewyllys da ers 1922, pan gafodd y cyntaf ei chyfleu drwy gôd Morse.

Roedd neges eleni i fod yn dra wahanol, ond roedd rhaid ei haddasu wrth i ymlediad Covid-19 ddod i'r amlwg.

Mae mesurau ynysu hefyd wedi golygu bod rhaid creu'r neges o glipiau fideo sydd wedi eu ffilmio gan bobl ifanc Cymru.

Dywedodd Caitlin bod hynny wedi bod yn her, ond bod yr argyfwng hefyd "wedi dod â phawb at ei gilydd ac mae pobl yn ddiolchgar am neges o obaith ar hyn o bryd".

"I fi, sy'n rhan o'r diaspora, mae'n bwysig nawr, yn fwy nag erioed, i deimlo'n agosach at genhedlaeth newydd Cymru."

Ychwanegodd: "Dwi'n credu bod pobl ifanc yn hanfodol i hyrwyddo Cymru ar lefel fyd-eang, yn enwedig trwy'r Urdd.

"Mae Cymru'n wlad fach ond dwi'n meddwl bod hwnna'n fantais.  Ni'n agosach at ein gilydd fel cymuned ac felly mae'n haws uno dros achosion arbennig sydd angen cael platfform rhyngwladol."

Mae'r neges hefyd wedi ei chyfieithu i mewn i 57 o ieithoedd ar wefan y mudiad, dolen allanol.