Dyn 88 oed wedi marw o anafiadau difrifol i'w wyneb
- Cyhoeddwyd

Bu farw John Rees o ganlyniad i'w anafiadau
Clywodd cwest fod dyn 88 oed wedi marw ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w wyneb yn dilyn ymosodiad honedig mewn siop Co-op yn Rhondda.
Bu farw John Rees ar ôl y digwyddiad ym Mhen-y-graig ar ddydd Mawrth, 5 Mai.
Roedd nifer o'i esgyrn wedi torri a bu farw o ganlyniad i "drawma grym sylweddol.'

Mae Zara Radcliffe wedi ei chyhuddo o lofruddio John Rees, 88 oed
Mae Zara Radcliffe, 29, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth a cheisio llofruddio tri o bobl eraill gafodd eu hanafu.
Cafodd y cwest ym Mhontypridd ei agor a'i ohirio gan y crwner Graeme Hughes.

Heddlu fforensig y tu allan i'r siop ym Mhen-y-graig
Clywodd y cwest fod Mr Rees yn siopa ar adeg y digwyddiad, tra bod ei wraig yn aros yn y car y tu allan.
Dywedodd Mr Hughes, crwner Canol De Cymru, y byddai'r cwest yn cael ei ohirio tan ar ôl yr achos troseddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020