'Do'n i ddim yn meddwl y bydden i'n siarad Cymraeg eto'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 96 oed o Landeilo, sy' bellach wedi ymgartrefu yn Ohio, wedi cael cyfle i siarad Cymraeg am y tro cyntaf ers bron i 40 mlynedd, wedi apêl gan ei mab ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd 'na gryn ymateb pan ofynnodd Keith McDermott, ar grŵp Facebook Cymry Efrog Newydd, a fyddai 'na unrhyw un yn fodlon cael sgwrs ffôn gyda'i fam "cŵl, ddoniol" yn ei mamiaith.
Mae Betty Ray McDermott, neu Ray, wedi byw yn yr Unol Daleithiau ers mwy na 70 mlynedd, ac ers colli ei mam bron i 40 mlynedd yn ôl, tydi hi ddim wedi siarad Cymraeg.
Fe ddywedodd wrth ei mab yn ddiweddar nad oedd hi'n credu y ca'i hi "gyfle i siarad Cymraeg eto".
Priodi Americanwr
Fe dreuliodd Ray ei phlentyndod yn Llandeilo, Hwlffordd ac Aberystwyth cyn i'r teulu symud i Loegr pan oedd hi'n 14 oed.
Roedd ei thad yn gweithio i fanc, a theithio yn rhan o'r swydd. Aeth Ray i ysgol breswyl yng Ngwlad Belg, a phan oedd hi'n ddeunaw oed, fe briododd â milwr Americanaidd - Jim McDermott, o Texas. Ac yno y dechreuodd ei bywyd priodasol, lle cafodd hi a Jim ddau o blant.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd gan Ray griw da o ffrindiau Cymraeg, oedd hefyd wedi priodi Americanwyr yn ystod y rhyfel. Ond, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, roedd hi'n sgwrsio llai a llai yn Gymraeg.
Wedi i gynifer o bobl ymateb i'w neges ar Facebook, fe ffoniodd Keith ei fam yn Ohio, er mwyn darllen rhai o'r negeseuon iddi hi.
"Ar ôl yr holl ymateb, ro'n i wedi fy nghyffwrdd, a dan deimlad mawr," meddai.
"Roedd mam wedi ei synnu. Does ganddi hi ddim cyfrifiadur felly mae byd y rhyngrwyd wastad yn dipyn o syndod iddi hi.
"Fe ddarllenais i bob neges iddi, ac roedd hi wrth ei bodd yn clywed o ba rannau o Gymru 'roedd pobl yn dod."
'Digon hawdd codi'r ffôn'
Ar ôl pori drwy'r negeseuon, fe benderfynodd Keith ofyn i Melisa Annis - cyfarwyddwraig a darlithydd, yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw yn Efrog Newydd - a fyddai hi'n fodlon helpu.
Roedd Melisa wrth ei bodd pan welodd neges Keith.
"Dwi ddim 'di bod ar Facebook gymaint â hynny, a rŵan mod i'n styc yn y tŷ, dyna dwi'n 'neud drwy'r dydd!" meddai. "Nes i weld neges Keith... a nes i feddwl y bydda' hi'n ddigon hawdd i mi godi'r ffôn, jyst i dd'eud 'helo!'
"Nes i ffonio Ray 'chydig o ddyddiau yn ôl, a 'naethon ni gael chat bach am be' oedd bywyd yng Nghymru a be' 'di bywyd yn Ohio rŵan, a sut oedd pethau yn Texas pan oedd hi un ei hugeiniau, so oedd o'n lot o hwyl!"
'Caru'r môr a'r mynyddoedd'
Yn ôl Ray, roedd yn hyfryd cael siarad hefo rhywun oedd wedi ymweld â'r un llefydd â hi pan oedd hi'n blentyn, ac roedd cael siarad Cymraeg eto yn arbennig iawn.
"Mam oedd y person diwetha' i siarad Cymraeg gyda fi," meddai. "Ma' hi wedi marw ers bron i 40 mlynedd, felly ma' wedi bod yn amser hir.
"Roedden ni wastad yn dod 'nôl i Gymru pan oedden ni'n dod i Brydain. Ro'n i'n caru gweld y môr a'r mynyddoedd, a'r bobl wrth gwrs. A dwi'n gweld ishe siarad Cymraeg gyda mam, ro'n i wir yn mwynhau gwneud hynny.
"Do'n i ddim yn meddwl y bydden i'n cael siarad Cymraeg eto.
"Dwi ddim yn crio yn aml, ond fe dda'th â deigryn i fy llygad i. Roedd o'n hyfryd, roedd o wir yn hyfryd."
Cyfeillgarwch newydd ar droed, felly, ac wrth i Keith obeithio denu rhagor o bobl i sgwrsio gyda'i fam, mae Melisa yn bwriadu anfon straeon byrion Cymraeg i Ray gael gwrando arnyn nhw, i ddwyn i gof rhagor o atgofion melys am ei phlentyndod yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020